Ganwyd yn Rhaeadr Gwy, 17 Gorffennaf 1819, yn fab i John Jones (a fu farw 1829), teithiwr masnachol. Prentisiwyd ef i wlanennwr yn Llanwrtyd, ond yn 1831 aeth i'r gwaith glo yn y Brynmawr ac oddi yno (1839) i Lanelli (Caerfyrddin). Dechreuodd bregethu gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, ond troes at yr Annibynwyr yn 1841. Bu mewn ysgolion yn Llanelli ac yn Rhyd-y-bont; yn 1844 urddwyd ef yn weinidog ar Gapel y Bryn, Llanelli. Symudodd yn 1845 i ofalaeth Tabor (Llanwrda) a Hermon, ac oddi yno yn 1850 i Libanus, Treforris, lle y gwnaeth enw mawr iddo'i hunan fel pregethwr a darlithydd - cyffelybid ef yn fynych i 'Williams o'r Wern.' Ym mis Medi 1858 aeth i eglwys Albany, Frederick Street, Llundain, ac wedyn (1861) i Bedford Chapel, Oakley Square, lle y gwrandawai'r bardd Browning arno'n gyson. Yn herwydd afiechyd, ymadawodd â Llundain ar ddiwedd 1869, i fod yn weinidog Walter Road, Abertawe; bu yno o 1870 hyd 1877, a thrachefn (gyda chynorthwywr) o 1881 hyd ei farw - bwriodd y blynyddoedd 1877-80 yn ceisio adennill ei iechyd yn Awstralia, a gofal eglwys Collins Street, Melbourne, arno. Bu'n llywydd Undeb Annibynwyr Lloegr a Chymru yn 1871-2. Bu farw 24 Mehefin 1882. Cyhoeddodd o bryd i bryd ddarnau o farddoniaeth yn Gymraeg; wedi ei farwolaeth cyhoeddwyd cyfrol o'i bregethau (The Divine Order), 1884, gyda rhagair gan Robert Browning, a byr-gofiant.
Y mae mewn man arall ysgrifau ar dri mab Thomas Jones, sef Syr David Brynmor Jones, prifathro John Viriamu Jones a Leifchild Stratten (Leif -) Jones.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.