JONES, LEIFCHILD STRATTEN LEIF (1862-1939), gwleidyddwr Rhyddfrydol a phleidiwr dirwest

Enw: Leifchild Stratten Leif Jones
Dyddiad geni: 1862
Dyddiad marw: 1939
Rhiant: Thomas Jones
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gwleidyddwr Rhyddfrydol a phleidiwr dirwest
Maes gweithgaredd: Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: Llewelyn Gwyn Chambers

Ganwyd yn Llundain 16 Ionawr 1862, mab Thomas Jones (1819 - 1882). Graddiodd yn y dosbarth blaenaf (1885) mewn mathemateg yng Ngholeg y Drindod, Rhydychen. Ar ôl sawl cais aflwyddiannus mewn mannau eraill, bu'n aelod seneddol dros ogledd Westmorland, 1905-10; Rushcliffe (Notts), 1910-8; Camborne (Cernyw), 1923-4 a 1929-31. Dyrchafwyd ef i'r bendefigaeth yn 1932, dan y teitl arglwydd Rhayader. Bu farw 26 Medi 1939 (Who was Who)

Bu yn Scotch College Melbourne cyn mynd i Rydychen lle y graddiodd yn M.A. yn 1889. Daeth yn aelod o'r Cyfrin Gyngor yn 1917; bu'n llywydd yr United Kingdom Alliance (mudiad dirwestol) 1906-32, a llywydd y Liberal Council 1934-37. Newidiodd ei enw i Leif-Jones 11 Ionawr 1932.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.