Ganwyd 4 Medi 1873 yn 261 Cardiff Road, Aberaman, Aberdâr, Morgannwg, i Watkin a Sarah Price, Cymry Cymraeg o Frycheiniog. Glöwr oedd y tad; ymddengys i'r teulu mudo i Aberdâr erbyn 1866. Addysgwyd ' W.W. ' yn ysgol elfennol Blaen-gwawr tan 1886 pan aeth i weithio yn swyddfa Tarian y Gweithiwr yn Aberdâr. Yna, bu'n ddisgybl-athro mewn dwy ysgol leol tan 1895 pan aeth yn fyfyriwr 'normal' i Goleg Prifathrofaol Caerdydd. Yn 1897 fe'i cyflogwyd gan Fwrdd Ysgolion Caerdydd. Yn 1900 dychwelodd i Gwm Cynon yn athro yn hen ysgol Dan Isaac Davies , sef Ysgol y Comin, Trecynon, a sefydlwyd yn 1848 mewn adwaith i'r pardduo a gafodd yr ardal yn y Llyfrau Gleision. Wedyn, bu'n brifathro ar ysgolion Llwydcoed (1912), Cap Coch (1921) a Blaen-gwawr (1924) nes ymddeol yn 1933.
Treuliodd ei oes, bron, yn ymchwilio i hanes a bywgraffyddiaeth ei fro a'i sir enedigol. Dechreuodd mewn ymateb i gais yn Eisteddfod Genedlaethol 1920 am draethawd ar hanes a llên gwerin unrhyw blwyf Cymreig. Ni ddaeth y gwaith byth i ben; eithr casglodd a dehonglodd yn helaeth ym maes hanes un o ardaloedd pwysicaf Cymru'r 19eg ganrif. Canlyniad ei lafur oedd traethodau, cofnodion ac adysgrifau gwerthfawr a amrywiai o'r mynachaidd i'r glofaol eu maes. Gellir gwir ryfeddu at ei gamp yn copïo rhwng 1941 ac 1943, ac yntau yn ei henaint, gannoedd lawer o dudalennau manwl allan o weithredoedd-mwyngloddio astrus yr ardal. Achubodd gyfrol unigryw o 1827-28 gan nithoedd Anthony Bacon II a ddarluniai natur wledig dwyrain Morgannwg cyn i ddiwydiant ei difwyno. Y mae ei Fynegai o ryw 40,000 cerdyn ar y byw a'r meirw yng Nghymru (sydd bellach yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru), yn dal i fod o ddefnydd i ymchwilwyr. Gwahoddodd R. T. Jenkins ef i gyfrannu 30 llith i'r Bywgraffiadur Cymreig, amryw ohonynt ar rai o gymeriadau pwysicaf y Gymru ddiwydiannol a fu.
Bu hefyd yn arloeswr sosialaidd : yn ysgrifennydd y Blaid Lafur Annibynnol yn Aberdâr, 1900-08; yn gynrychiolydd etholiad Keir Hardie, A.S., yn 1906; a cheir traddodiad mai ef oedd un o'r mwyaf brwd yn pwyso am enwebiad Hardie yng nghyfarfod Bethel, Abernant (Mehefin 1900) er ymladd etholiad cyffredinol fis Hydref y flwyddyn honno. Eto i gyd, troes maes o law at Blaid Cymru, gan gymeradwyo Gwynfor Evans yn is-etholiad Aberdâr yn 1954. Oherwydd llugoeredd rhai capeli tuag at Lafur ymadawodd ' W.W. ' â chapel Saron (A), Aberaman, gan ymuno â'r Undodiaid Cymraeg yn yr Hen-dy-cwrdd, Trecynon.
Priododd Margaret Williams, Henbant Hall, Llandysul, 1901 : bu hi farw yn 1950. Yn 1952 dyfarnwyd iddo radd M.A. er anrhydedd gan Brifysgol Cymru, a châi ei adnabod weithiau fel ' Bob Owen y De '. Bu farw 31 Rhagfyr 1967 gan adael pedwar mab ac un ferch. Wyr iddo yw Peter Price, A.S. (C) Ewropeaidd De-ddwyrain Llundain.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.