mab John (bu farw 1841) a Gwen Howell, Torfoel, Penderyn, Brycheiniog. Ychydig addysg a gafodd, gan ei brentisio i grydd yn 8 oed. Bum mlynedd wedyn aeth i weithio ym Mhont-Nedd-Fechan. Pan ond ychydig dros 14 oed, yr oedd ym Merthyr Tydfil ymysg beirdd, cerddorion ac eisteddfodwyr; oddi yno aeth i Aberdâr, lle y mynychai ysgolion nos a gedwid yn Ysgol y Comin gan John Anthony a Dan Isaac Davies. Rhoes ei waith fel crydd i fyny ac o 1854 hyd 1861 yr oedd yn llifiwr coed gyda'i frawd-yng-nghyfraith. Ond ar anogaeth ei weinidog, y Dr. Thomas Price, dysgodd grefft argraffu, ac agorodd ei swyddfa ei hunan yn 1867. Trwy ei gyfraniadau mynych i gyfnodolion, enillodd gryn sylw yng Nghymru 'n gyffredinol - cyhoeddid llawer o'i farddoniaeth yn Seren Gomer, Yr Ymofynydd, a'r Geninen. Argraffodd lawer o lyfrau Cymraeg yn ei wasg, heblaw'r newyddiadur Y Gweithiwr Cymreig yr oedd yn berchennog ac yn olygydd iddo. Yr oedd yn awdurdod ar lên gwerin a thafodiaith dwyrain Morgannwg, a rhannodd y wobr gyda T. C. Evans ('Cadrawd') am draethawd ar lên gwerin Morgannwg, yn eisteddfod genedlaethol Pontypridd, 1893; ddwy flynedd cyn ei farw dechreuodd gyfres o ysgrifau ar Ddyffryn Cynon yn Y Geninen. Bu farw 14 Mehefin 1902; claddwyd ym Mhenderyn.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.