Ganwyd 7 Ebrill 1873 yng Nghoedffalde, Llan-giwg, Morgannwg, ar odre'r Mynydd Du, yn fab i Daniel ac Angharad Owen. Collodd ei fam ac yntau'n flwydd oed a magwyd ef gan rieni'i dad. Cafodd ysgol yng Nghwmllynfell ac ar ôl cyfnod byr yn y lofa aeth i Academi Parcyfelfed (Ysgol yr Hen Goleg), Caerfyrddin, ac oddi yno i Goleg Bala-Bangor yn 1894. Bu'n gyfaill mynwesol i Ben Bowen a beirdd ifainc eraill ei ddydd. Parhaodd y diddordeb mewn eisteddfota drwy ei weinidogaeth yn Nhrawsfynydd (1898-1902) lle bu'n ddylanwad ar Ellis Humphrey Evans ('Hedd Wyn'); a Deiniolen (1902-05) lle daeth i adnabod Thomas Gwynn Jones a William John Gruffydd. Aeth wedyn yn weinidog i Sardis, Pontypridd (1905-10) a thra oedd yno enillodd goron eisteddfod Genedlaethol Abertawe yn 1907 ar 'Y greal sanctaidd', wedi dod yn agos iawn yn y Rhyl yn 1904. Priododd, 10 Awst 1904, ag Annie Hopkin o Ystalyfera a bu iddynt ddau o blant. Yn 1908 daeth Dyfnallt yn aelod o'r Gyngres Geltaidd a bu ganddo ddiddordeb yn y gwledydd Celtaidd weddill ei oes. Yn 1910 derbyniodd alwad i Heol Awst, Caerfyrddin lle treuliodd weddill ei weinidogaeth. Yn 1916 aeth yn gaplan yr Y.M.C.A. i Béthune yn Ffrainc a chyhoeddodd lyfryn o gerddi a myfyrdodau unigryw ar ei brofiad sef Myfyrion a chaneuon maes y tân. Ysbeidiol ydoedd ei farddoni wedi hyn er iddo gyhoeddi casgliad o gerddi, Y greal a cherddi eraill (1946). Troes ei sylw at lenydda ac olrhain hanes achosion yr Annibynwyr. Stephen Hughes (1912), ' Tomos Glyn Cothi ' (Y Dysgedydd, 1933) a'r Tri Brawd o Lanbrynmair (Adroddiad Undeb yr Annibynwyr, 1928) oedd rhai o'i arwyr, ac ysgrifennodd amdanynt nid yn gymaint i groniclo ffeithiau ag i ysbrydoli oes newydd. Penodwyd ef yn olygydd Y Tyst yn 1927, swydd yr ymhyfrydai ynddi fel cyfrwng i fynegi ei ddaliadau am heddychiaeth, gwrthimperialaeth, cenedlaetholdeb a Christnogaeth. Yn 1953 dathlwyd ei chwarter canrif fel golygydd â detholiad o'i ysgrifau yn Ar y tŵr, teitl a oedd yn cyfleu'r golygydd fel gwyliwr Eseia yn gwarchod y ddinas rhag y gelyn. Felly y gwelai ef ei hun. Teithiai'n helaeth i Wlad Pwyl, yr Eidal, y Swisdir, Bafaria a Llydaw. Cyhoeddodd lyfr ar ei daith i Lydaw, O ben tir Llydaw (1934), dwy gyfrol o ysgrifau ac erthyglau, Min yr hwyr (1934) a Rhamant a rhyddid (1952), yn ogystal â nifer helaeth o gyfraniadau i'r wasg enwadol a'r Bywgraffiadur Cymreig. Pan dorrodd Rhyfel Byd II allan yr oedd yn Danzig, a chyhoeddodd erthyglau megis ' Wythnos yn Danzig ', ' Arswyd y Gestapo ' a ' Hitleriaeth gartref '. Wedi'r rhyfel rhoddodd nawdd yn ei gartref yng Nghaerfyrddin i Roparz Hemon y llenor Llydewig a ddiangasai cyn ei brawf yn Llydaw. Gwnaethpwyd ef yn gadeirydd Undeb yr Annibynwyr yn 1936 a derbyniodd radd M.A. er anrhydedd gan Brifysgol Cymru yn 1953. Etholwyd ef yn Archdderwydd Cymru yn 1954 yn y Rhyl. Yr oedd bellach yn bedwar ugain mlwydd oed ac yn mwynhau ei ymddeoliad yn Aberystwyth er 1947. Bu farw 28 Rhagfyr 1956, a gwasgarwyd ei lwch ar y Mynydd Du. Nid oedd dim gweniaith yng ngeiriau'r deyrnged iddo yn Y Cymro - ' un o'r anwylaf o'r Cymry '.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.