Chweched plentyn Thomas a Dinah Bowen, Treorci, Rhondda. Addysgwyd ef yn ysgol fwrdd Treorci, ysgol golegol Pontypridd, a Choleg y Brifysgol, Caerdydd. Yn lowr ieuanc, dan ddylanwad cymdeithasau llenyddol lleol, eisteddfodau, ac ysgrifau D. W. Jones ('Dafydd Morgannwg') yn y South Wales Weekly News, a Thomas Williams ('Brynfab') yn Y Darian, bu ganddo ddiddordeb y tu hwnt i'w oed mewn barddoniaeth. Erbyn cyrraedd ei 18 oed yr oedd wedi ennill cydnabyddiaeth fel bardd addawol. Enillodd gadeiriau eisteddfodol ym Mhenrhiw ceibr (1896) ac Aberdâr (1897).
Gadawodd y pwll glo yn 1897 er mwyn paratoi ar gyfer gweinidogaeth y Bedyddwyr; yn yr un flwyddyn cyhoeddodd gasgliad byr o farddoniaeth, Durtur y Deffro. Torrodd ei iechyd yng Ngorffennaf 1899, ac oherwydd hynny fe fethodd orffen ei flwyddyn gyntaf (1899-1900) yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd. Yr oedd yn ail am y goron yn eisteddfod genedlaethol Lerpwl, 1900, a hawliodd ei bryddest ' Pantycelyn ' gryn sylw. Rhoes tysteb genedlaethol gyfle iddo dreulio Ionawr 1901 hyd Gorffennaf 1902 mewn gwledydd tramor, yn bennaf yn Kimberley, Deheudir Affrica. Erbyn hyn yr oedd wedi ei drwytho'n dda mewn llenyddiaeth Gymraeg a Saesneg. Ymddiddorai yn syniadau gwyddonol ei ddydd a'u harwyddocâd diwinyddol, ac yr oedd yn efrydydd trwyadl o lenyddiaeth yr Almaen. Parodd ei erthyglau (ar bynciau athrawiaethol) mewn cyfnodolion Cymraeg ddadlau chwerw ac ymosodiadau personol.
Wedi iddo ddychwelyd i Gymru diarddelwyd ef gan ei eglwys - Moriah, Pentre. Aeth cyflwr ei iechyd yn waeth a bu farw yn Ton Pentre 16 Awst 1903; claddwyd ef yn Treorci.
Gwnaeth ei bersonoliaeth, ei wroldeb ieuanc, ei ddeall cyflym, a'i addewid lenyddol argraff ddofn ar ei gyfoeswyr. Cyfyngid arno fel bardd gan ffurfiau llenyddol ac egwyddorion artistig y 19eg ganrif a oedd yn cyflym ddiflannu. Er hynny, y mae rhai darnau o'i waith ar ffurf y bryddest a'r awdl o safon uchel. Yn ei gyfnod olaf dylanwadwyd arno'n fawr gan y mudiad rhamantaidd newydd ym marddoniaeth Cymru. Dengys ei bregethau, ei erthyglau, a'i lythyrau gadernid ei arddull mewn rhyddiaith.
Golygwyd ei weithiau gan ei frawd ' Myfyr Hefin.' Y maent yn cynnwys Cofiant a Barddoniaeth Ben Bowen (1904), Rhyddiaith Ben Bowen (1909), Blagur Awen Ben Bowen (1915), Ben Bowen yn Neheudir Affrica (1928), Ben Bowen i'r Ifanc (1928).
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.