WILLIAMS, THOMAS ('Brynfab'; 1848 - 1927), llenor ac amaethwr

Enw: Thomas Williams
Ffugenw: Brynfab
Dyddiad geni: 1848
Dyddiad marw: 1927
Rhiant: Gwenllian Williams
Rhiant: Thomas Williams
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: llenor ac amaethwr
Maes gweithgaredd: Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Natur ac Amaethyddiaeth
Awdur: Thomas Harris Lewis

Ganwyd 8 Medi 1848 yn Fforch Aman, ffermdy yng Nghwmaman, Aberdâr, mab Thomas a Gwenllian Williams. Symudodd y teulu i'r Fforch, Treorci, pan oedd y mab yn ifanc iawn, ac yno y derbyniodd yr ychydig addysg a gafodd. Pan oedd yn 25 mlwydd oed ymsefydlodd yn yr Hendre, plwyf Eglwysilan, a bu'n amaethwr yno am dros 50 mlynedd. Wedi ymddeol aeth i fyw i'r Hendre Wen, S. Athan. Bu farw 18 Ionawr 1927 a chladdwyd ef ym mynwent eglwys y plwyf, Eglwysilan. Am gyfnod maith bu 'Brynfab' yn golygu'r golofn farddol yn Y Darian ac yn ysgrifennu'n helaeth i'r papurau ar faterion llenyddol. Yr oedd yn eisteddfodwr pybyr ac yn fardd adnabyddus. Ceir yn ei 'nofel' Pan oedd Rhondda'n bur, 1912, ddarlun gwerthfawr o hen fywyd Cwm Rhondda. Fel cydnabyddiaeth o'i wasanaeth i fywyd llenyddol Cymru, rhoddwyd iddo bensiwn sifil y Llywodraeth. Efe ydoedd un o arweinwyr 'Clic y Bont,' sef y clwb awen a chân ym Mhontypridd y perthynai 'Carnelian,' 'Glanffrwd,' 'Dewi Alaw' ac eraill iddo. Cymeriad gwreiddiol iawn oedd 'Brynfab' ac yn batrwm o'r hen ddiwylliant gwerinol Cymraeg.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.