ROWLAND, NATHANIEL (1749 - 1831), clerigwr Methodistaidd

Enw: Nathaniel Rowland
Dyddiad geni: 1749
Dyddiad marw: 1831
Priod: Margaret Rowland (née Davies)
Rhiant: Elinor Rowland (née Davies)
Rhiant: Daniel Rowland
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: clerigwr Methodistaidd
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Gomer Morgan Roberts

Ganwyd ym mhersondy Llangeitho, mab Daniel Rowland. Addysgwyd ef yn Christ Church, Rhydychen; graddiodd yn B.A., 1771, ac M.A., 1774. Urddwyd yn ddiacon yn Rhydychen, 26 Mai 1771, ac yn offeiriad yn Llundain 21 Medi 1773. Bu'n gurad Stock (Essex) o 1771 hyd ei briodas yn 1776 a Margaret, merch Howel Davies, ac aeth i fyw i'r Parcau, Henllan Amgoed, ar ffiniau Caerfyrddin a Phenfro.

Methodist oedd, fel ei dad, ac ymddengys iddo wasnaethu fel ysgrifennydd y sasiwn yn 1778-97. Bu'n gefn am flynyddoedd i Fethodistiaid Sir Benfro; bugeiliodd y seiadau a ffurfiwyd gan ei dad-yng-nghyfraith; gofalai hefyd am y Tabernacl, Hwlffordd. Galwodd William Williams Pantycelyn arno i gymryd lle ei dad fel arweinydd y sasiwn, a chymerth ran flaenllaw yn niarddeliad Peter Williams.

Ei fai pennaf oedd balchter, a'i duedd oedd tra-awdurdodi ar ei frodyr. Diarddelwyd yntau, am feddwdod, yn sasiwn Castellnewydd Emlyn yn 1807. Bu farw 8 Mawrth 1831, a'i gladdu yn Henllan Amgoed. Argraffwyd ei ewyllys yn Cylchgrawn Cymdeithas Hanes y Methodistiaid Calfinaidd, 1954, 11-13.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.