GRIFFITH, SIDNEY ('Madam Griffith '; bu farw 1752)

Enw: Sidney Griffith
Ffugenw: Madam Griffith
Dyddiad marw: 1752
Priod: William Griffith
Plentyn: John Griffith
Rhiant: Jane Wynne (née Griffith)
Rhiant: Cadwaladr Wynne
Rhyw: Benyw
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Merch Cadwaladr Wyn o'r Foelas yn Ysbyty Ifan (J. E. Griffith, Pedigrees, 326) - galwyd hi ar ôl ei nain Sidney Thelwall o Blas-y-ward; priododd (tua 1741? - ganwyd ei mab yn 1742) â William Griffith o Gefnamwlch (J. E. Griffith, op. cit., 169), meddwyn anhygar y methai hi ddygymod ag ef.

Daeth at grefydd yn 1746 dan bregeth Peter Williams. Cyfarfu gyntaf â Howel Harris ddechrau Hydref 1748, yn Llŷn. Ddechrau 1749 yr oedd hi yn Llangeitho gyda Daniel Rowland, a aeth â hi i'r sasiwn yn Errwd (1 Chwefror); oddi yno, talodd ymweliad â Threfeca. Pan oedd Harris yn dychwelyd o daith yn Llŷn (19-20 Gorffennaf), cyd-deithiodd gydag ef i sasiwn Llangeitho (26 Gorffennaf), a hebryngodd yntau hi mor bell â Llanfair-ym-Muellt ar ei ffordd adref. Y mae'n amlwg i Harris syrthio'n ddwfn dan ei dylanwad ar y teithiau hyn - dylid nodi, fodd bynnag, mai gyda Rowland yr ochrai hi ar y pryd yn y materion yr anghytunai Rowland a Harris arnynt, megis gwrthwynebiad Rowland i Griffith Jones, Llanddowror, ac i James Beaumont. Pan ddychwelodd Harris o Lundain i Drefeca (23 Medi), wele ' Madam Griffith ' yno'n ei aros, gyda'r newydd fod ei phriod yn fethdalwr, a'i fod wedi ei churo a'i throi allan o'r ty am wrthod bodloni i aberthu ei gwaddol iddo. Dymunai Harris iddi aros yn Nhrefeca, ond erbyn hynny yr oedd Mrs. George Whitefield wedi gwenwyno meddwl Mrs. Harris tuag ati, a bu'n rhaid iddi gychwyn tua'r gogledd; yr oedd tafodau maleisus ymhlith y cynghorwyr Methodistaidd hefyd ar waith, a heblaw hynny yr oedd hithau'n honni galluoedd proffwydoliaethol ac yn ymyrraeth yn nhrefniadau'r mudiad Methodistaidd. Cymerwyd hi'n wael ar ei thaith, a bu'n rhaid i Harris a'i wraig fynd i Llanidloes i'w chyrchu'n ôl i Drefeca. Ar ddiwedd y flwyddyn, achosodd y sgandal rwyg rhwng Harris a Whitefield. Cynyddodd yr anghydfod yn 1750; ac er nad oedd Rowland na William Williams ( Gomer M. Roberts , Y Per Ganiedydd, 126) yn rhoi unrhyw gred i'r enyniadau a ddygid yn erbyn Harris a ' Madam Griffith,' yr oedd y cynghorwyr (asgwrn cefn plaid Rowland) yn codi melin a phandy arnynt; yn y cyfamser, yr oedd y ddwy wraig yn cydfyw'n ddigon heddychol yn Nhrefeca - yn wir, yr oedd rhai hyd yn oed o'r cynghorwyr, gwyr digon llym a Phiwritanaidd, â barn uchel iawn am gymeriad y ' broffwydes.' Edrychai Harris arni fel 'llygad corff Crist' (bu iddi, gyda llaw, fwy nag un rhagflaenydd yn y cymeriad hwn, yng ngolwg Harris), ac yr oedd yn gwrando'n ddibetrus ar ei chynghorion, ac yn mynd â hi o gwmpas y wlad fel math o arch y cyfamod. Ceisiodd Morgan John Lewis (bu yntau gynt yn 'llygad') ymliw ag ef, ond gwrthododd Harris wrando (Mai 1750); ofer hefyd fu ymgais ' Madam Griffith ' ei hunan (Mehefin) i gyfryngu rhwng Harris a Rowland (a Howell Davies). Erbyn mis Medi, yr oedd amgylchiadau Mrs. Griffith yn faich ar Harris - ni chynhaliai ei gwr mohoni, a bu'n rhaid i Harris dalu drosti, gofalu am addysg ei mab, a mynd yn feichiau drosti.

Erbyn dechrau 1752, yr oedd ei hiechyd wedi gwaethygu'n ddirfawr, ac aeth Mrs. Harris â hi i Lundain a'i rhoi yng ngofal ei brawd Watkin Wyn; bu hi farw yno 31 Mai 1752. Yr oedd wedi rhoi ymrwymiad i Harris am £400 i'w ddigolledu am ei dreuliau a'i ymrwymiadau ar ei rhan; ond ni allai'r ysgutor (Wyn) gyfarfod â'r gofynion (yr oedd William Griffith wedi marw ar 11 Chwefror) - dylid er hynny gofio ei bod hi gynt wedi rhoi swm mawr (efallai £900) i Harris at sefydlu Trefeca (M. H. Jones, The Trevecka Letters, 188). Heb ymboeni i wrthbrofi'r cyhuddiadau eithafol a ddygwyd yn erbyn Harris ynglyn â'i berthynas â ' Madam Griffith,' eto ni ellir osgoi barnu iddo ddangos cryn ffolineb, ac y mae ei ddyddlyfrau ef ei hunan yn y blynyddoedd hyn yn cynnwys llawer ymadrodd y gellid darllen ystyr anffafriol i mewn iddynt. Y mae'n amlwg i'r peth wneud drwg i Harris ym marn y wlad (noder, e.e. ar ddamwain, Cymm., xlv, 54, a llythyr Noah Jones at Thomas Morgan 'Henllan' yn 1750, NLW MS 5459D - a dywed Richard Bennett fod 'pobl tua Chaerfyrddin yn gwneud gogan-gerddi amdano'), a'i fod yn un (ond yn un yn unig) o achosion yr ymraniad ymysg y Methodistiaid o 1750 ymlaen. Eithr barn bwyllog Bennett, a weithiodd drwy ddyddlyfrau a gohebiaeth Harris yn y blynyddoedd hyn, oedd nad oedd ynddo ond 'arwyddion o feddwl wedi colli ei fantoliad, ac arno angen dybryd am seibiant i adfeddiannu ei bwyll'; a thrachefn, 'dirywiad meddyliol, yn hytrach na moesol, a'i harweiniodd i'r annoethineb amryfus hwn.'

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.