Dyn o sir Faesyfed, na wyddys ond hanes deng mlynedd olaf ei fywyd. Yr oedd yn aelod o gynulleidfa Annibynnol y Gore (yn ymyl Hen Faesyfed), ond syrthiodd dan ddylanwad Howel Harris, ac aeth i bregethu. Yn 1741 fe'i ceir yn Dilwyn (sir Henffordd) yn pregethu dan adain rhyw Mrs. Marlow yn ei thŷ; ac yn 1741-1744 pregethai hefyd yn Llanllieni. Yng Nghymdeithasfa Watford (Ionawr 1743) fe'i neilltuwyd yn ' Gynghorwr Cyhoeddus ' (h.y. teithiol), ac ychydig wedyn yr oedd yn arolygydd seiadau sir Faesyfed dan Harris; y mae llythyr gan un o ohebwyr Harris yn 1744 yn disgrifio'r erlid creulon a fu ar Beaumont - ond chwedl yn unig yw'r traddodiad iddo gael ei labyddio i farwolaeth.
Mewn llythyr o eiddo Beaumont at Harris yn Ebrill 1745 (rhif 1310 yn yr 'Inventory' swyddogol), cawn amlygiad o wahaniaeth barn ddiwinyddol rhwng y ddeuddyn, ac erbyn Rhagfyr 1748 (llythyr rhif 1836) gellid meddwl bod Beaumont nid yn unig wedi gŵyro at Antinomiaeth ond hefyd yn pregethu heresïau eraill, yng nghwmni ei ddisgybl Thomas Sheen - y mae'r newidiadau hyn yn nodweddiadol o'r anhrefn a arweiniodd i'r ymraniad Methodistaidd yn 1750-1762. Fodd bynnag, yr oedd Beaumont hefyd, fel ei hen arweinydd Harris, yn teimlo atyniad at Forafiaeth. Yn 1750, aeth i lawr i Sir Benfro 'er mwyn ei iechyd' (meddai cofnod Morafaidd), a phregethodd yno. Bu farw yn Hwlffordd 22 Mehefin 1750, a chladdwyd ef yn Prendergast. Bu pregethu Morafaidd yn y Gore o 1751 ymlaen, ac yr oedd amryw o aelodau'r gynulleidfa Forafaidd yn Llanllieni'n bobl o sir Faesyfed.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.