SHEEN, THOMAS (1718 - 1790), cynghorwr Methodistaidd ac Antinomiad

Enw: Thomas Sheen
Dyddiad geni: 1718
Dyddiad marw: 1790
Rhiant: Margaret Sheen
Rhiant: William Sheen
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cynghorwr Methodistaidd ac Antinomiad
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Gomer Morgan Roberts

Bedyddiwyd ef yn eglwys Glasgwm, sir Faesyfed, 8 Tachwedd 1718, mab William a Margaret Sheen o'r plwyf. Ni wyddys pa bryd y dechreuodd gynghori gyda'r Methodistiaid. Daeth o dan ddylanwad athrawiaeth gyfeiliornus James Beaumont yn 1748. Perthynai i blaid Howel Harris yn 1750, ond cefnodd yn fuan a ffurfio plaid o'i ganlynwyr yn ardaloedd Llanfair-ym-Muellt. Dywedir iddo ddylanwadu ar eraill, megis Moses Lewis a Thomas Meredith. Credir mai rhyw gymysgedd o gyfriniaeth a Monoffysiaeth (neu Apolinariaeth, efallai) oedd ei athrawiaeth ef a'i gymheiriaid. Canodd un o'i ddilynwyr, Walter Watkin o Aberhonddu, farwnad i'w goffadwriaeth. Bu farw 28 Chwefror 1790.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.