mab Arthur Lewis o'r Fron, Brymbo, sir Ddinbych. Yr oedd yn un o sefydlwyr yr achos yn Adwy'r Clawdd, a ffodd Peter Williams i'w dŷ' ar ôl ei erlid yn 1748. Dechreuodd bregethu c. 1750. Ymlynai wrth blaid Howel Harris yn 1751, ond cefnodd arno yn fuan gan wrthod ymuno â'r 'Teulu' yn Nhrefeca. Coleddodd syniadau Antinomaidd a chafodd rai i'w ddilyn yn Nyffryn Clwyd ac Arfon. Enwir ef gyda Thomas Sheen a Thomas Meredith ac Antinomiaid amlwg eraill, a chyfeirir ato yn 1763 fel un a bregethai athrawiaeth y brodyr Relly. Cefnodd yn gyfan gwbl ar grefydd yn niwedd ei oes; bu farw mewn henaint c. 1800.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.