Hanoedd o Lanbrynmair, ond trigai yng Nghoed-y-rhos, Mochdref, Sir Drefaldwyn. Enwir ef yn gynghorwr yn sasiwn y Tyddyn, 1747. Perthynai i blaid Howel Harris yn 1750, ond trowyd ef allan yn 1751. Dywedir iddo ŵyro at Antinomiaeth a mynd o dan ddylanwad Thomas Sheen. Dychwelodd i'w gynefin a llwyddodd i ennill rhai canlynwyr. Cyhoeddwyd casgliad o'r eiddo yn 1770 allan o waith William Erbury a Morgan Llwyd, etc., sef A Scourge for the Assirian the great Oppressor (W. Laplain, Salop). Ceir ei olygiadau mewn llyfr a gyhoeddwyd yn 1770 ar ôl ei farw (o'r un wasg), sef An Illustration of Several Texts of Scripture, sy'n cynnwys rhai o'i lythyrau. Ceir elfen gyfriniol yn ei waith, a thuedd at ddaliadau'r hen heretigiaid ' Monophysitaidd. '
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.