RELLY dau frawd o sectwyr, o Jeffreston yng ngwaelod Sir Benfro.

Yr enwocaf ohonynt yw JAMES RELLY (1722 - 1778), meddyg anifeiliaid, a drowyd at grefydd (meddai ef ei hunan) gan Whitefield ar 16 Ebrill 1743, ac a ddechreuodd gynghori yn ardal Arberth. Ar ôl 1747 (pan aeth ar daith bregethu yng ngorllewin Lloegr), ni bu rhyw lawer â wnelai â Chymru. Cefnodd yn gynnar ar y Whitefieldiaid, a'i cyhuddai o fod yn ' Antinomiad,' ond (ar y cychwyn, beth bynnag) y mae'n debycach mai 'llonyddwch' ('Quietism') a'i nodweddai - bu ef a'i frawd am dymor byr (1750-3), gyda John Harris 'o S. Kennox ' (1704 - 1763), yn cynnal enwad bychan ar wahân. Ond wedyn, daeth James Relly 'n ' Universalist ' - credai fod pawb i gael ei achub - a symudodd i Lundain, gan bregethu yn y Coachmakers' Hall, wedyn yn Bartholomew Close, ac yn y diwedd (1769-78) yn Crosby Square. Daeth rhyw ffolog, a oedd wedi trefnu blwydd-dâl iddo, â chyngaws yn ei erbyn i gael yr arian yn ôl, a daeth Relly 'n gryn dipyn o gyff gwawd. Bu farw 25 Ebrill 1778; yn ôl carreg ei fedd ym mynwent y Bedyddwyr yn Maze Pond, yr oedd yn 56 oed. At y rhestr o'i weithiau a roddir yn y D.N.B. (gan Alexander Gordon), dylid chwanegu o leiaf dri arall sydd yn y Llyfrgell Genedlaethol : The Life of Christ, 1762; Christian Liberty, 1775; a The Ministry of the New Testament (argraffiad 1850); yr oedd hefyd yn emynydd.

Nid ymddengys fod ei frawd (iau) JOHN RELLY (a fu farw 1777) o lawer mor egnïol nac mor od â James Relly. Yn wyneb yr hyn a ddywed James am ei dröedigaeth dan Whitefield, efallai mai at John Relly 'n unig y cyfeiria cofnod Morafaidd a ddywed mai John Harris o S. Kennox a'u hargyhoeddodd. Pan aeth ei frawd i Lundain, daliodd John Relly i arolygu nifer o dai-cyrddau a berthynai i'r sect - Penfro a Templeton yw'r mwyaf adnabyddus. Yr oedd ar y telerau mwyaf cyfeillgar â'r Morafiaid yn Hwlffordd; pregethai'r Morafiaid yn fynych yn ei dŷ-cwrdd yn Templeton (Dyddiadur y Gynulleidfa; gweler Cymm., xlv, 40), a phregethai John Relly yn eu capel hwythau. Yn wir, ymddengys y buasai'n dda ganddo ymdoddi yn eglwys y Brodyr oni buasai fod eu ffurflywodraeth hwy'n esgobol-bresbyteraidd, a'r Relliaid yn 'gynulleidfaol.' Yr oedd John Relly yntau'n emynydd. Bu farw 8 Ebrill 1777 yn y Caeriw (Carew); y gweinidog Morafaidd a wasnaethodd yn yr angladd. Wedi ei farw, darfu ei enwad yn fuan - cafodd y Whitefieldiaid y tŷ-cwrdd ym Mhenfro, rhoddir cyfeiriad uchod at hanes diddorol Templeton, a bernir mai at yr Annibynwyr yr aeth Relliaid mannau eraill.

Awdur

Ffynonellau

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.