Na chymysger ef â John Harries (1722 - 1788) 'o Dreamlod '; ganwyd yn Nhrefdraeth ar ddydd Gwener y Groglith, 1704. Ei wraig oedd Esther Davies (a fu farw 1766), ferch Llewellyn Davies o'r Clynfyw, Maenor Deifi - ei chwaer hi, Letitia, priod James Bowen o'r Dygoed ym mhlwyf Clydai, a wahoddodd Howel Harris i ymweld am y tro cyntaf â Sir Benfro, yn 1739. Troes Harris yn gynnar at Fethodistiaeth; efe a groesawodd Howell Davies i Sir Benfro, ac yr oedd yn arolygydd nifer o seiadau yng ngwaelod y sir. Erbyn 1748, fodd bynnag, nid oedd hi'n dda rhyngddo a'r Methodistiaid; amheuent hwy ei ddaliadau, a chwynai yntau ar eu 'hwyl' a'u gorfoleddu hwythau. Peidiodd â mynychu'r sasiynau, ac yn y diwedd esgymunwyd ef gan Howell Davies. Yn ôl cofnod Morafaidd (gweler Cymm., xlv, 34), cynigwyd bugeiliaeth eglwys Annibynnol Albany yn Hwlffordd iddo; ond o tua 1750 hyd 1753 gwell fu ganddo ef a'r brodyr Relly ymgynnull yn enwad bychan. Yn 1753, daeth dan ddylanwad John Cennick, y cenhadwr Morafaidd, ac ymunodd â'r Brodyr. Bu farw 21 Hydref 1763, a chladdwyd yn S. Thomas, Hwlffordd. Yr oedd chwaer iddo'n wraig i George Gambold. Bu merch Harries, Anne (Davies), yn cadw ysgol yn Hwlffordd; yr oedd hi eto'n fyw yn 1806 - ymddengys 'Widow Ann Davies, late Harris ' yn rhestr cynulleidfa'r Brodyr yn y flwyddyn honno.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.