HARRIES (HARRIS, HARRY), JOHN (1722 - 1788), 'o Dreamlod,' cynghorwr bore gyda'r Methodistiaid Calfinaidd

Enw: John Harries
Dyddiad geni: 1722
Dyddiad marw: 1788
Plentyn: Evan Harries
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cynghorwr bore gyda'r Methodistiaid Calfinaidd
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Na chymysger ef â John Harris (1704 - 1763) 'o S Kennox'. Ac ystyried ei enwogrwydd, y mae'n syn mor ychydig yw'r ffeithiau pendant a wyddys amdano. Yr oedd â gofal seiadau yng ngogledd sir Benfro arno'n gynnar, a daeth yn ddeheulaw i Howell Davies; nid damwain yw'r ffaith mai ym mhlwyf Treamlod y mae Woodstock, capel cyntaf y Methodistiaid Calfinaidd yn y sir. Ar farwolaeth Howell Davies (1770), John Harries (ffermwr da ei fyd) oedd wrth lyw Methodistiaeth Dyfed nes daeth Nathaniel Rowland i gymryd gwaith Howell Davies drosodd. Yn ôl William Gambold, 'he was one of the strictest and most approved of men, universally beloved'; ac yr oedd gan Rowland Hill feddwl mawr ohono. Ymdrechodd yn galed i atal y llanw Morafaidd yn y sir: ceryddodd y Brodyr yn 1768 am 'ddwyn pobl Mr. Howell Davies,' ac edrydd y Morafiad Edward Oliver i Harries ymliw'n rymus ag ef yn 1770 'for coming among their people, as he called them' - serch i'r ddeuddyn gydletya yn Nhreddafydd ar ôl cydbregethu'n gyfeillgar ddigon 'in the Methodist Meeting House.' Bu farw yn Nhrefdraeth, 7 Mawrth 1788; yn ôl carreg ei fedd, yr oedd yn 66 oed. Bu iddo fab, EVAN HARRIES, a ddechreuodd gynghori yn 1784, ac a oedd yn un o'r 13 cynghorwyr o'r Deheudir a ordeiniwyd yn 1811; bu farw 1819. Daeth amryw o ddisgynyddion John Harries yn weinidogion.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.