MOSES, EVAN (1726-1805), 'o Drefeca,' teiliwr

Enw: Evan Moses
Dyddiad geni: 1726
Dyddiad marw: 1805
Priod: Barbara Moses (née Parry)
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: teiliwr
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd ym Mehefin 1726 yn Aberdâr. Ymunodd â theulu Trefeca yn 1752, a bu'n ddeheulaw Harris yno hyd 1773. Gydag Evan Roberts (1718 - 1804) a JAMES PRITCHARD (a ymadawodd yn 1774), yr oedd yn un o'r tri ymddiriedolwr a osododd Harris ar y teulu; ei swydd neilltuol oedd arolygu bywyd crefyddol y teulu, a byddai hefyd yn teithio yng Ngogledd a Deheudir Cymru i gasglu deiliaid newyddion. Dyn onest ond crabet oedd ef, bychan ei allu, ond y mae ei ddyddlyfrau (yn Ll.G.C.) yn ffynonellau gwerthfawr ar hanes y Teulu (detholion ohonynt yn Cylchgrawn Cymdeithas Hanes y Methodistiaid Calfinaidd, x, xxxi). Ei wraig (1774) oedd Barbara Parry o Lansannan; â'i harian hi y prynwyd gwasg Trefeca. Bu farw yn 1805 (' Evan Moses, Minister of Gospel, buried 7 December' meddai rhestr Talgarth); gweler M. H. Jones, The Trevecka Letters, a'i restr o'r teulu, Cylchgrawn Cymdeithas Hanes y Methodistiaid Calfinaidd, ix. Na chymysger yr Evan Moses hwn ag

EVAN MOSES, cynghorwr Methodistaidd bore Crefydd yn y Bala,

gŵr (fe ddywedir) o Geredigion a ymsefydlodd gyda'i frawd JOHN MOSES (gofaint oeddynt) yn y dre'n gynnar yn y 18fed ganrif - dau o aelodau cyntaf seiat y Bala; gweler William Williams, Methodistiaeth Dwyrain Meirionydd, 52-5. Ni wyddys ddyddiadau Evan Moses, ond bu ei frawd John farw yn 1787; ŵyr i John Moses oedd y bardd ' Ioan Tegid ' (John Jones, 1792 - 1852).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.