JONES, JOHN (1802 - 1863), gweinidog Undodaidd ac ysgolfeistr

Enw: John Jones
Dyddiad geni: 1802
Dyddiad marw: 1863
Priod: Anne Jones (née Rees)
Plentyn: Rees Jenkin Jones
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog Undodaidd ac ysgolfeistr
Maes gweithgaredd: Crefydd; Addysg
Awdur: Thomas Oswald Williams

Ganwyd 20 Gorffennaf 1802 ym Mhantlluest, Llanarth, Ceredigion. Fe'i haddysgwyd yn ysgol Davis Castellhywel a Choleg Caerfyrddin (1825-7). Yn 1831 agorodd ysgol yng Nghribin mewn cysylltiad â'r Parch. Rees Davies. Yn ystod yr amser hwn pregethai yn achlysurol ym Mhantydefaid. Yn Chwefror 1833 ymsefydlodd yn weinidog ar Hen Dŷ Cwrdd Aberdâr, gan agor ysgol ramadeg ar Heol y Felin. Priododd Anne Rees o Gilgellisaf ger Llanbedr Pont Steffan, a'u mab oedd Rees Jenkin Jones, Aberdâr. Yr oedd yn ieithydd medrus mewn Groeg, Lladin, a Chymraeg, a bu ei ysgol yn enwog am ddwy genhedlaeth. Nid yw'n annhebyg nad ef oedd y cyntaf i feddwl am gylchgrawn misol i'w enwad, a hynny mor fore â 1835. Disgybl Dr. Priestley ydoedd, ac yr oedd yn gwbl groes i ryfel. Cyhoeddodd Llythyr ar y Drindod, 1834; Llyfr Ysgol Sul, 1839; Edifeirwch Gwely Angeu, 1836; Galwad ar Ieuenctyd i droi at Dduw, 1840; Pechod yn erbyn yr Ysbryd Glan, 1846; (gol.) Crwth Dyffryn Clettwr (' Amnon '), 1848; Traethawd y Sabbathau, 1859; Chwech o Bregethau, 1865; a Casgliad o Salmau a Hymnau, 1857. Bu farw 19 Rhagfyr 1863. Brawd iddo oedd Rees Jones, (1797 - 1844).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.