Ganwyd yn Nhalgarreg 8 Hydref 1797; yr oedd yn frawd hyn i John Jones (1802 - 1863). Collodd ei dad ac yntau yn 12 oed. Bu yn ysgol Davis Castellhywel a medrai Ladin, ond oherwydd amgylchiadau teuluaidd fe'i tynnwyd o'r ysgol, ac amaethwr a fu drwy'i oes. Priododd, yn ifanc, Mary, merch Nantyrymenyn, ac ymaelododd ym Mhantydefaid. Collodd ei briod ymhen naw mlynedd, ac yn 1828 priododd eilwaith. Bu farw 15 Chwefror 1844 yn 46 mlwydd oed, a chladdwyd ef ym mynwent Pantydefaid. Erys ei goffa yn fyw fel awdur Crwth Dyffryn Clettwr, 1848. Cyfansoddai yn y mesurau caeth a rhydd, a dengys ei ganeuon feddwl blaengar. A chofio iddo adael yr ysgol cyn ei fod yn 15 oed, dengys y Crwth addewid fawr. Y mae llawer o'i ganeuon hyd heddiw ar dafod ardal, a chofir am ' Politics Pegy,' ' Fy Nhadcu,' ' Awdl Gofiant Beirdd Ceredigion,' ' Ymddiddan rhwng David Lloyd a Sara Gwaralltyryn,' ac y mae tinc heddiw yn ei gân, Cwyn Gweithdai y Tlodion.' Gwnaeth fwy, hwyrach, drwy ei ganeuon nag odid neb i ddeffro meddwl ardal â'i gadw yn rhyddfrydig.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.