Ganwyd 16 Chwefror 1842, mewn bwthyn o'r enw Pen-y-graig, Brynaman, mab Daniel Richard Williams, glöwr, a'i wraig Mari, merch fferm. Magwyd ef yn Bryn Hafod, Brynaman. Collodd ei dad pan nad oedd ond ieuanc. Dilynodd yntau yng nghamre ei dad a mynd i weithio mewn glofa. Dechreuodd anfon englynion i'r Gwladgarwr pan oedd 'Caledfryn' (William Williams) yn olygydd y golofn farddol yn y papur hwnnw. Pan ddaeth dirwasgiad ym mywyd diwydiannol Brynaman a'r cylch, ymfudodd 'Gwydderig' i Pennsylvania, U.D.A., eithr dychwelodd maes o law i Frynaman. Daeth yn bur adnabyddus yng nghylchoedd barddonol Cymru fel englynwr, ac fel 'bardd yr englyn' y cofia llawer amdano. Dywedir iddo ef a 'Gurnos' ddechrau paratoi geiriadur cynganeddol. Er iddo ennill gwobrau mewn eisteddfodau cenedlaethol fwy nag unwaith nid ymddengys i gasgliad o'i weithiau gael ei gyhoeddi a rhaid felly chwilio amdanynt yn newyddiaduron a chylchgronau ei gyfnod; ceir rhai englynion o'i waith yn yr erthglau yn y rhifynnau o'r Geninen a nodir isod. Bu farw 30 Mawrth a chladdwyd ef ym mynwent capel Gibea, Brynaman, 4 Ebrill 1917.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.