JONES, EVAN ('Gurnos '; 1840 - 1903), gweinidog gyda'r Annibynwyr a'r Bedyddwyr, bardd, beirniad, darlithydd, ac arweinydd eisteddfodol

Enw: Evan Jones
Ffugenw: Gurnos
Dyddiad geni: 1840
Dyddiad marw: 1903
Plentyn: Giraldus Jones
Rhiant: Mary Jones
Rhiant: John Jones
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Annibynwyr a'r Bedyddwyr, bardd, beirniad, darlithydd, ac arweinydd eisteddfodol
Maes gweithgaredd: Crefydd; Addysg; Eisteddfod; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Barddoniaeth
Awdur: Evan David Jones

Ganwyd 14 Ebrill 1840 yn Hendrelywarch (Penrhipyn, medd eraill), Gwernogle, Sir Gaerfyrddin, yn fab i John a Mary Jones. Tua 1848 symudodd y teulu i Ystalyfera. Ymhen dwy flynedd bu farw ei fam, a'i dad ymhen pum mlynedd arall. Cafodd ei addysg fore yn ysgol y Parch. Daniel Evans yn y Plough and Harrow, Gwernogle, ac yn ysgol y gwaith, Ystalyfera. Ymddiddorodd ei frawd hyn (David, ' Dewi Ogle,' a ymfudodd i America) ac yntau mewn prydyddiaeth ac englyna yn fore. Pan oedd tuag 20 oed dechreuodd bregethu yn y Gurnos, Ystalyfera. Dychwelodd i'w hen fro i ysgol y Parch. Thomas D. Jones cyn myned i Goleg Presbyteraidd Caerfyrddin yn 1863.

Ordeiniwyd ef yn weinidog ar eglwys fechan o Annibynwyr yn Nhreorci yn 1867, a gwelodd adeiladu capel Bethania iddynt cyn symud i fugeiliaeth eglwysi Drws-y-coed a Thalysarn, Sir Gaernarfon, yn 1872. Tra yno priododd ferch Hugh Jones, y Plas, Llangefni, yn 1875, ond bu hi farw ar enedigaeth mab (Giraldus) yn 1876. Bu yntau dan gwmwl, ac o fewn rhyw ddwy flynedd dychwelodd i'r De. Gadawodd yr Annibynwyr, bedyddiwyd ef yn Llwynypia, a'i dderbyn i weinidogaeth y Bedyddwyr yng nghymanfa Tongwynlais, 1881. Bu'n weinidog ar eglwysi'r Bedyddwyr yn y Betws, Penybont-ar-Ogwr (1882-), a'r Deml, Casnewydd (1887-91). Erbyn 1892 yr oedd yn byw ym Mhorthcawl, er y dywedir iddo fod yn gofalu am eglwysi yn y Pil a Bryste tua'r un adeg. Yn 1893, yr oedd yn byw yn y Pil, heb ofal, ond wedi dychwelyd i bregethu gyda'r Annibynwyr.

Tua 1898 priododd weddw John Chubb, Dinas, ac yn 1900 cymerodd fugeiliaeth eglwys Annibynnol Llanbradach. Yno y bu farw 16 Rhagfyr 1903, a'i gladdu ar 22 Rhagfyr ym mynwent y Groeswen.

Enillodd gadeiriau eisteddfodol yn y Coed-duon ('Y Farn'), 1870; Ystradyfodwg ('Alis Arthur'), 1871; Bangor ('Y Beibl'), 1874; Caerdydd ('Greddf'), 1879; Racine, Wisconsin, 1881; y Rhyl ('Y Cenhadwr'), 1892. Eisteddfodau cenedlaethol oedd rhai Bangor a'r Rhyl. Yn eisteddfod genedlaethol Pontypridd, 1893, dyfarnodd mwyafrif y beirniaid fod awdl ' Ceulanydd ' yn rhagori ar ei awdl ef, a chreodd y beirniad arall, ' Gwilym Cowlyd,' gyffro ar y llwyfan drwy brotestio'n gyhoeddus yn erbyn y dyfarniad. Cafodd wobr am ddrama ar Owain Tudur yn eisteddfod genedlaethol Caernarfon, 1894. Rhagorai yn ei ganeuon byr, ei benillion diarhebol, a'i ddarnau adrodd. Yr oedd yn un o ddarlithwyr 'pennaf ei gyfnod ac ef oedd arweinydd eisteddfodol mwyaf poblogaidd yr ugain mlynedd olaf o'i oes. Cyhoeddodd rai o'i weithiau: Rhian-Awdl: 'Alis Arthur' (Aberaman, 1871); Awdl y Beibl … [a] Drama gysegredig ar adeiladu Jerusalem (Caernarfon, 1875); Greddf (Treherbert, 1879); Caniadau Gurnos (Cwmafon, 1885); a Caneuon, Llyfr iii (Cwmafon, 1890). Yn hwn cyfeirir at werthu'r ail lyfr, ond eto ' Ail Lyfr Gurnos ' yw'r pennawd parhaol.

Yn Nhalysarn cychwynnodd newyddiadur o dan y teitl John Jones, ond nid ymddangosodd ychwaneg na'r rhifyn cyntaf, Ionawr 1878.

Dechreuodd ei fab Giraldus bregethu ond ni ddaliodd ati. Bu'n gyfrifydd mewn glofa (Tywysydd y Plant, 1940, 222).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.