Ganwyd 31 Mawrth 1831 ym mhentref Pensarn, Llanwenllwyfo, sir Fôn. Bu'n gweithio pan oedd yn fachgen yng ngwaith copr Parys, ger Amlwch; bu'n brentis gyda brethynnwr ym Mangor; cadwodd siop ei hun, ar ôl hynny, yn Nhalsarn, ac ysgol wedyn yn yr un lle. Yn 1852 yr oedd yn is-olygydd Y Cymro (Holywell); yn 1855 symudodd i Lerpwl i olygu 'r Amserau; yn 1858 aeth i Aberdâr i olygu 'r Gwladgarwr a'r Glorian; wedi hyn aeth i Ddinbych ar staff Y Faner, ac oddi yno i swyddfa Herald Caernarfon. Bu hefyd mewn cysylltiad â'r Gwron, Gwalia, a'r Genedl. Yn 1870 aeth drosodd i America, a bu yno am tua phedair blynedd, a bu'n gyd-olygydd newyddiadur Cymraeg, Y Wasg. Aeth i America yr eiltro. Bu ef ac eraill yn cynnal cyngherddau yng Nghymru ac America, ac yr oedd 'Llew Llwyfo' yn ganwr ysgubol. Yr oedd hefyd yn arweinydd eisteddfodol. Ef, efallai, oedd y gwr mwyaf amryddawn yn y ganrif ddiwethaf. Bu farw 23 Mawrth 1901 yn y Rhyl, a chladdwyd ef ym mynwent Llanbeblig, Sir Gaernarfon.
Bardd yr arwrgerddi oedd 'Llew Llwyfo.' Enillodd ar 'Gwenhwyfar' yn eisteddfod Merthyr Tydfil, 1859; ar 'Caradog' yn eisteddfod genedlaethol Aberdâr, 1861; 'Llewelyn' yn eisteddfod y Rhyl, 1863; 'Dafydd' yn eisteddfod genedlaethol Aberystwyth, 1865; 'Arthur y Ford Gron' yn eisteddfod genedlaethol Caer, 1866; 'Elias y Thesbiad' yn eisteddfod Rhuthyn, 1868; 'Gruffydd ap Cynan' yn eisteddfod genedlaethol Wrecsam, 1888; 'Ioan y Disgybl Anwyl' yn eisteddfod genedlaethol Llanelli, 1895; a chafodd lu o wobrau llai pwysig yn eisteddfodau Cymru ac America. Dyma ei brif gyhoeddiadau: Awen Ieuanc, 1851; Llewelyn Parri: neu y Meddwyn Diwygiedig (nofel), 1855; Huw Huws neu y llafurwr Cymreig (nofel), 1860; Llyfr y Llais, 1865; Troadau yr Olwyn, 1865; Gemau Llwyfo, 1868; Y Creawdwr. Cerdd ddysg (didactic poem), 1871; Cyfrinach Cwm Erfin, a Y Wledd a'r Wyrth (dwy nofel; diddyddiad); Buddugoliaeth y Groes (arwrgerdd), 1880; Cydymaith yr herwheliwr: neu a gollwyd ac a gafwyd. Chwedl Wledig, 1882; Drych y Prif Oesoedd … ynghyd a rhagdraith gan Llew Llwyfo, 1883; A Selection of Sacred and Secular Lyrics from the Welsh with English versions, by Llew Llwyfo.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Yr oedd yn ail o chwech o blant. Yn wyth oed, gweithiai ym Mynydd Parys. Y brethynnwr yr aeth ato'n brentis yn y ' Siop Goch ' (Dean-street) ym Mangor (1845) oedd Edward Evans, tad Llewelyn Ioan Evans (1833 - 1892;); pan ymfudodd hwnnw i America (Ebrill 1850), aeth y Llew i wasanaeth John Lewis, dilledydd yng Nghaergybi, ac yno y priododd. Wedyn, agorodd siop ym Mhen-y-sarn (nid Tal-y-sarn), ac yno yr oedd pan gyhoeddodd Awen Ieuanc (1851). Cadwodd ysgol am ychydig yn Llanallgo, ond yn 1852 aeth i fyw yn Llaneilian, yn 'bwyswr' mewn ystordy ym Mhorth Amlwch - cyn diwedd 1852 aeth i Dreffynnon, i swyddfa'r Cymro; bu wedyn yn Wrecsam yn fath o 'ymwelydd' dros berson y plwyf; yna aeth i Lerpwl, i siop ffyrm o ddilledyddion. Pan gychwynnodd John Lloyd yn 1855 gyhoeddi'r Cronicl Wythnosol (nid Yr Amserau) penodwyd Llew 'n olygydd. Rhoed y gorau i'r Cronicl hwn yn 1857, a dychwelodd Llew i Dreffynnon, at y Cymro; ond cyn pen dim cafodd le ar Y Gwron yn Aberdâr, dan Josiah T. Jones (1799 - 1873). Ffraeodd â'i feistr cyn diwedd y flwyddyn, ond daliodd gyda'r Gwladgarwr hyd ddiwedd 1858. Yna, cafodd waith gan Thomas Gee (1815 - 1898); yr oedd yn Ninbych yn 1862. Yn 1863-5 bu'n byw yn y Rhyl, ond yr oedd yn ei ôl yn Ninbych erbyn Mai 1866. Symudodd i Gasnewydd yn 1867 i olygu Y Glorian, yn olynydd i Glasynys (Owen Wynne Jones, 1828 - 1870). Ym mis Medi 1868 hwyliodd i America, ar daith ganu; bu hefyd am ychydig yn olygydd Y Wasg (Pittsburg). Dychwelodd yn 1874, ac erbyn 1875 gweithiai yn swyddfa'r Herald yng Nghaernarfon. Tywyll yw ei hanes ar ôl hyn; ni wyddys i sicrwydd a fu yn America eilwaith; bu ar ryw adeg yn gweithio ar y Gwalia yng Nghaernarfon, ond erbyn Gorffennaf 1885 daeth hynny i ben, a chawn ef yn sgrifennu at amryw (megis W. J. Parry, 1842 - 1927) i ymbil am waith neu arian. Gwaethygodd ei iechyd. Cynhaliwyd ef yn Llan-rug am rai blynyddoedd gan gyfeillion. Ar ei ffordd yn ôl o eisteddfod Lerpwl (1900), bu'n aros gyda'i fab yn y Rhyl, ac yno y bu farw 23 Mawrth 1901; claddwyd yn Llanbeblig. Ychwaneger at y ffynonellau ar ei hanes: Adgofion Llew Llwyfo o'i Ymdaith yn America, ganddo ef ei hun (Llyfrau Ceiniog Hugh Humphreys, ail gyfres, rhif 63), a llythyrau yn Ll.G.C., ac yn Llyfrgell Coleg y Gogledd.
Dyddiad cyhoeddi: 1970
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.