JONES, OWEN WYNNE ('Glasynys'; 1828 - 1870), clerigwr, hynafiaethydd, storïwr, a bardd

Enw: Owen Wynne Jones
Ffugenw: Glasynys
Dyddiad geni: 1828
Dyddiad marw: 1870
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: clerigwr, hynafiaethydd, storïwr, a bardd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Hanes a Diwylliant; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Barddoniaeth
Awdur: David Gwenallt Jones

Ganwyd yn Tŷn-y-ffrwd, Rhostryfan, ger Caernarfon, 4 Mawrth 1828. Aeth i weithio yn y chwarel pan oedd yn 10 oed, a'i gadael yn 17 a mynd i ysgol Bron-y-foel. Ni wyddys yn sicr a fu ef yn ysgol 'Eben Fardd' yng Nghlynnog, ond aeth i Goleg Hyfforddi Caernarfon, i baratoi bod yn athro yn ysgolion yr Eglwys. Bu'n athro ysgol yng Nghlynnog, ac 'Eben Fardd' yn gymydog iddo. Symudodd i gadw ysgol yn 1855 i Lanfachreth ym Meirionnydd, a daeth i gysylltiad ag 'Ab Ithel' yn Llanymawddwy; bu'r ddau yn trefnu eisteddfodau, a 'Glasynys' yn cystadlu ynddynt. Oddi yno aeth i Feddgelert at y Parch. William Hughes; bu, y mae'n debyg, mewn coleg yn Birmingham. Urddwyd ef yn ddiacon, 2 Rhagfyr 1860, gan esgob Bangor. Aeth yn gurad i Langristiolus ym Môn, yn 1863 symudodd i Lanfaethlu, ac yn 1866 cafodd guradiaeth ym Mhontlotyn, sir Fynwy. Byr fu ei arhosiad yma, a symudodd i Gasnewydd i gyd-olygu (gydag 'Islwyn') newyddiadur, Y Glorian. Aeth oddi yno i Borthmadog, ac oddi yno i Dywyn, Meirionnydd. Bu farw 4 Ebrill 1870, a chladdwyd ef ym mynwent Llandwrog. Ef oedd awdur Fy Oriau Hamddenol, sef, Caniadau Moesol a Difyrus, Gan Gwyndaf Hen a Chaersallwg, 1854; Lleucu Llwyd (ail arg. 1858); Yr Wyddfa: sef gwaith barddonawl a rhyddieithol Glasynys. Dan Olygiad H. O(wen) Glaslyn. Rhifyn I … (1877?); Dafydd Llwyd: Neu Ddyddiau Cromwell (ail arg. 1857); Dafydd Gruffydd, pa beth wyt ti yn ei feddwl o'r Ddwy Fil a'r dydd hwnw? 3ydd arg. 1894). Ysgrifennodd erthyglau yn Y Brython, Baner y Groes, Taliesin, a llythyrau i'r Herald Cymraeg tan y ffugenw, 'Salmon Llwyd o ben Moel Tryfan'; cyhoeddwyd ei straeon yn Cymru Fu a rhai o'i lythyrau a'i draethodau yn Y Geninen.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.