EVANS, LLEWELLYN IOAN (i ddechrau, Ioan Llewelyn Evans ?) (1833 - 1892), ysgolhaig Beiblaidd

Enw: Llewellyn Ioan Evans
Dyddiad geni: 1833
Dyddiad marw: 1892
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: ysgolhaig Beiblaidd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Bleddyn Jones Roberts

Ganwyd yn y Treuddyn ger Yr Wyddgrug ar y 23 Mehefin 1833 (yn ôl Methodistiaeth Sir Fflint a'r Goleuad, ond yng Nghaerwys yn ôl y C. and D. Herald, Y Traethodydd, a'r Geninen, ac ym Mangor yn ôl Y Celt a'r Cymro). Yr oedd yn fab i'r Parch. Edw. T. Evans, Treuddyn (Caerwys?), ac wyr i'r Parchn. Thomas Evans, Caerwys, a Robert Roberts, Rhiwabon. Yn 1846 trigai ym Mangor, a bu yn ysgrifennydd i'r Gomeryddion. Bu'n efrydydd yn y Bala dan Lewis Edwards o 1847 hyd 1850, pan ymfudodd gyda'i rieni i Racine, Wisconsin. Yno graddiodd yn B.S. yn 1854 ac yn A.B. yn 1856. Ymddiddorai mewn gwleidyddiaeth ar y pryd, ac etholwyd ef yn aelod o'r Wisconsin Legislature yn 1856. Yn y flwyddyn ddilynol symudodd i Cincinnati, a daeth yn un o olygyddion y Cincinnati Gazette. Ond yn fuan wedi hynny aeth i Lane Seminary i ymbaratoi ar gyfair y weinidogaeth gyda'r Presbyteriaid, ac yn 1860 fe'i hordeiniwyd, a daeth yn weinidog eglwys Lane Seminary. Yn 1862 (1863 ?) etholwyd ef yn athro hanes yr Eglwys yn Lane, yn athro hanes Beiblaidd yn 1867, athro Hebraeg yn 1871, ac yn athro y Testament Newydd yn 1873 (1875 ?). Yr oedd yn gyd-olygydd y Princeton Review, a chyhoeddodd amryw o ysgrifau ar bynciau Beiblaidd. Ysgrifennodd H. P. Smith, Hebreigydd amlwg yn U.D.A., amdano ei fod yn un o'r gwyr mwyaf teilwng a diwyd a hefyd mwyaf ysgolheigaidd a disglair yn y weinidogaeth yn U.D.A. (gweler Preaching Christ, cyfrol o bregethau gan Evans, a gyhoeddwyd wedi ei farw yn 1893). Yn 1891 fe'i gwahoddwyd i gadair Hebraeg a'r Hen Destament yng Ngholeg Diwinyddol y Bala, ond bu farw ym Mae Colwyn ar 25 Gorffennaf 1892, cyn dechrau ar ei waith yno; claddwyd ef yn Cincinnati ym mis Medi. Cyhoeddodd ' Gwir Werth Addysg ' (yn Y Traethodydd, 1852); Notes and Additions to Lange's (Zockler?) Commentary on Job (New York, 1874); ' Cristionogaeth Bersonol ' (yn Y Traethodydd, 1892); Preaching Christ, 1893; Poems, Addresses, and Essays, 1893 - y ddwy olaf wedi ei farw.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.