Yr aelod amlwg cyntaf o'r teulu oedd y bardd Dafydd Llwyd ap Llywelyn, a flodeuai tua 1480 ac a ganodd nifer o gerddi brud i Harri Tudur. Ymddengys fod ganddo stad helaeth ar lannau Dyfi uwchlaw Machynlleth. Y rhai nesaf yn y llinach oedd IFAN AP DAFYDD LLWYD, HUW ab IFAN, a JOHN ap HUW a fu'n ustus heddwch rhwng 1553 a 1566. Gwraig yr olaf oedd Catherine, ferch Syr Richard Herbert, Trefaldwyn. Bu eu mab, ROWLAND PUGH, yn ustus heddwch a bu'n cynrychioli bwrdeisdref Trefaldwyn yn y Senedd yn 1572 ac yn 1588-9. Bu hefyd yn ddirprwywr trethi 'r sir. Yr oedd ei ŵyr, yntau'n ROWLAND PUGH, yn fargyfreithiwr; ymaelododd yn yr Inner Temple yn 1598. Bu'n stiward Cyfeiliog, yn ustus heddwch, yn siryf yn 1609 ac yn 1626, ac yn 1631 yn siryf Meirionnydd. Yr oedd yn bybyr o blaid y brenin ac yn 1644 llosgwyd ei dŷ gan filwyr y Senedd. Bu farw 26 Rhagfyr 1644 a'i gladdu yng Nghonwy. Yr oedd ei wraig gyntaf yn ferch Syr Richard Pryse, Gogerddan. Yr oedd ei ŵyr JOHN PUGH yntau'n fargyfreithiwr, ac yn arglwydd maenor Cyfeiliog, a bu'n cynrychioli bwrdeisdref Trefaldwyn yn y Senedd rhwng 1708 a 1727. Pan ddarfu am y llinach wrywaidd gwerthwyd stad Mathafarn i Syr Watkin Williams Wynn yn 1752.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.