Ganwyd yn y Tynewydd (=' Castellmarch Uchaf') yn Llŷn, o deulu bonheddig, yn fab i William a Mary Jones. Ymaelododd yn Rhydychen o Goleg Iesu, 7 Mawrth 1647, 'yn 20 mlwydd oed,' i baratoi at fod yn feddyg. Yr oedd amryw o uchelwyr ei fro'n ochri gyda'r Piwritaniaid; felly yntau, a dywedir iddo, wedi dechrau pregethu, fod yn gaplan i'r cyrnol John Jones o Faesygarnedd. Eithr hynod amhendant yw ein gwybodaeth am ei yrfa o 1647 hyd 1662; ni ellir pwyso'n rhy ffyddiog ar y traddodiadau amdano a gasglwyd gan Robert Jones, Rhoslan, nac yn wir ar adroddiadau manylach a diweddarach - nid oes e.e. unpeth i brofi mai ef oedd y ' John Williams ' a roddwyd ym mywoliaeth Llanbeblig yn 1651 ac a'i daliodd hyd 1660; nid oes chwaith unrhyw awgrym yn llawysgrif NLW MS 3071E yn ei uniaethu â'r ' John Williams ' sydd yn y rhestr honno o Anghydffurfwyr milwriaethus y bu'n rhaid chwilio eu tai am arfau yn 1661 yn Llŷn. Ond yr oedd yn Llundain yn 1662, a dywedir iddo fod yn gaplan yn nhŷ uchelwr Piwritanaidd yng Nghaint. Yn 1663, ac yntau eto yn Lloegr, rhoes ustusiaid Sir Gaernarfon wysion i'w ddal ef a Richard Edwards o Nanhoron, ar sail llythyr bradwrus (meddid) a anfonasai ef at Edwards. Pan glybu hyn, rhoes Williams ei hunan yn nwylo'r awdurdodau yn Llundain, a llwyddodd i wrthbrofi'r cyhuddiad; rhyddhawyd hwy ill dau ar ôl bod 10 wythnos yng ngharchar. Dychwelodd John Williams i'w sir, a dilyn ei alwedigaeth fel meddyg. Yr oedd wedi priodi â Dorothy Whalley o sir Gaerlleon; yn Bryn Gro, Clynnog Fawr, yn 1666, y ganwyd ei unig blentyn Mary, ond yn Llangïan y bedyddiwyd hi, ac y mae'n sicr mai'r Tynewydd oedd ei drigfan arferol - y tŷ hwnnw a gofrestrwyd ar 5 Medi 1672 yn dŷ cwrdd, dan Oddefiad y flwyddyn honno. Ddiwedd Awst 1672 ymwelodd Henry Maurice â Llŷn, ac ar 7 Medi galwodd yn y Tynewydd i weld ei 'gâr,' chwedl yntau - ni lwyddwyd hyd yn hyn i brofi perthynas rhyngddynt. Edliwiodd Maurice i John Williams ' ei hir lonyddwch, am nad oedd wedi pregethu ers tro mawr,' a serch iddo weled 'llawer o ras' yn Williams, ni fodlonwyd ef gan ei esgusodion. Aeth yr eilwaith i'w weld (14 Medi) ac ymliw ag ef eto am ' esgeuluso gwaith yr Arglwydd yn y wlad honno ' - a chafodd John Williams ddigon o wroldeb i ddweud rhai pethau go blaen wrtho yntau. Bu John Williams farw 28 Mawrth 1673, 'yn ei 47 flwydd,' a chladdwyd yn Llangïan; y mae darlun o'r arysgryf Ladin (â phais arfau) garreg ei fedd i'w weld yn y Cofiadur, 1928 - gelwir ef yn 'weinidog trwy ras Duw,' ac yn 'iechyd ei fro' (gan gyfeirio at ei ddwy alwedigaeth).
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.