JONES, WILLIAM (bu farw c. 1700), gweinidog gyda'r Bedyddwyr yn ne-orllewin Cymru;

Enw: William Jones
Dyddiad marw: c. 1700
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Bedyddwyr
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Thomas Richards

Amryw byd o bethau yn ei yrfa gynnar yn ansicr: mannau ei eni a'i addysg; nid oes brawf digonol iddo fod yn offeiriad Cilmaenllwyd o dan y ' Triers '; nid oes gadarnhad diogel i'r gred iddo gael ei argyhoeddi o fedydd y crediniol gan Jenkin Jones yng ngharchar Caerfyrddin. Daw sicrwydd i mewn gyda'i daith i Olchon yn sir Henffordd, cartref hynaf (fe gredid) egwyddorion y Bedyddwyr ymhlith y Cymry, i gael ei fedyddio drwy drochiad yno, a dyfodiad dau o swyddogion yr eglwys honno i sefydlu achos newydd yn y gorllewin ar sail y bedydd troch a'r cymundeb caeth (12 Gorffennaf 1668). Enwyd William Jones yn brif henuriad. Bedyddiwyd 30 cyn i'r Olchoniaid gyrraedd; erbyn diwedd 1669 yr oedd yno 55 o aelodau; erbyn diwedd 1675, 80; erbyn 1689, 113. Tystiai'r niferoedd hyn i bropaganda dwys a manwl; canys rhaid oedd iddo orfyw cyfreithiau dreng y ' Clarendon Code,' gwrthwynebiad naturiol yr Annibynwyr a fagesid yn y ffydd gan Stephen Hughes, a gwrthwynebiad mwy ffyrnig y Crynwyr cynnar, ym mhlwyf Llandysilio a'r ardaloedd cyfagos. Nid efengyl hawdd ddymunol oedd efengyl William Jones, ond un galed ddigymrodedd; bedyddio ar adegau anhygar o'r flwyddyn, bedyddio hen wragedd, teithio ymhell i arddodi dwylo (mewn ufudd-dod i Hebreaid vi, 2), a byw yn ôl bannau Cyffes Ffydd Vavasor Powell o'r hon y tynnwyd allan yn ofalus bob cyfeiriad at gymundeb rhydd gyda saint didrochiad. Yr oedd William Jones a'i bobl yn hyddysg aruthr yn holl aparâtws y gwrthwynebwr goddefus: cyfarfodydd dirgel, symudiadau lladradaidd ar draws gwlad, priodi o flaen henuriaid heb wasanaeth offeiriad, darpar 'gerddi claddu' i'w aelodau, a pheidio â datguddio ei gilfachau cysegredig drwy ofyn am drwydded o dan ryddid 1672-5. Yr oedd i'r eglwys (a elwid yn ' Rhydwilym ' er mwyn hwylustod) derfynau daearyddol eang, o ganol Ceredigion i Amroth ger y môr, o Hwlffordd i Lanllawddog; erbyn 1715, meddai ' Lists ' y Dr. John Evans, yr oedd 900 o Fedyddwyr caeth yn Sir Benfro yn unig - gormodiaith amlwg, ond teyrnged fawr i allu ac ynni yr hen arweinydd. Yn naturiol ddigon, dywedodd yr erlid cyson yn bur ddwys ar lwyddiant ei waith; rhwng 1678 a 1687 ni fedyddiodd onid pump i gyd. Ond cyn gynted ag y daeth si fod rhyddid helaethach ar droed, wele ef yn dechrau bedyddio drachefn, ac ychwanegwyd 20 at yr eglwys yn 1689-90. Yn ei ddyddiau diwethaf yr oedd ganddo 11 o bregethwyr yn ei gynorthwyo. Tyfodd y canghennau yn eglwysi ar eu pennau eu hunain; ohonynt hwy, mewn cenhedlaeth ddiweddarach, y cododd rhai o Fedyddwyr mwyaf enwog y dyddiau, yn enwedig Enoc Francis y pregethwr, Abel Morgan y mynegeiwr, a Joshua Thomas yr hanesydd.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.