JONES, JENKIN (1623 - ?), capten ym myddin y Senedd a phregethwr Piwritanaidd

Enw: Jenkin Jones
Dyddiad geni: 1623
Dyddiad marw: ?
Priod: Barbara Jones (née Mansell)
Plentyn: Barzillai Jones
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: capten ym myddin y Senedd a phregethwr Piwritanaidd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Milwrol
Awdur: Thomas Richards

Ganwyd yn y Tŷ Mawr, plwyf Llanddeti, Brycheiniog. Ymaelododd yng Ngholeg Iesu, Rhydychen, 1639, a phriododd fel ail wraig Barbara, merch Syr Anthony Mansell o Briton Ferry, nith i Bussy Mansell, un o brif arweinwyr plaid y Senedd ym Morgannwg. Daeth Jones yn wr pur amlwg yn y Rhyfel Cartref, fel milwr ac fel pregethwr; argyhoeddwyd ef mai'r Bedyddwyr oedd yn iawn ar ddull a deiliaid bedydd, ond derbyniai sectau eraill at Fwrdd yr Arglwydd, ac nid oedd iddo fawr cydymdeimlad â'r caethgymundeb a bwysleisid gan John Miles a'i ddilynwyr yn ne-ddwyrain Cymru. Enwyd ef fel profwr o dan Ddeddf y Taeniad (1650), gwelir ei enw fel un a delid am bregethu o dan y Ddeddf honno, a bu mor ddygn brysur yn cyfaddasu adrannau'r Ddeddf at amgylchiadau'r dydd ag i dynnu am ei ben brotest ffyrnig tri o offeiriaid Brycheiniog a gopïwyd i'r True and Perfect Relation, 1654. Fel pregethwr teithiol âi ar dro i lawr i Landeilo Crosenni ym Mynwy; treuliai lawer o'i amser yng nghymdogaeth Merthyr Tydfil. Yn 1657 sefydlodd yn weinidog Llanddeti drwy fendith y ‘Triers’; dywedir hynny yn blaen yn y Lambeth MS. 998 (137), a'i fod yn y fywoliaeth er 18 Tachwedd; a thystia'r Alarum to Corporations a gyhoeddwyd yn 1659 ei fod yn ‘pastor of a congregated church’ ym Mrycheiniog. Nid hawdd, felly, yw derbyn gair Calamy ei fod yn weinidog eglwys Llangatwg Nedd tua'r un amser. Er bod Jenkin Jones yn gyfaill mawr i Vavasor Powell, nid oes fawr brawf y cydolygai a syniadau hyderus y gŵr hwnnw am yr Ail Ddyfodiad a'i olygiadau politicaidd; serch hynny, taflwyd ef i ddwfn bryder pan gyhoeddwyd Cromwell yn Brotector, arwyddodd ei enw ar y Word for God fel protest, ac aeth cyn belled (medd ei gyhuddwyr) â galw milwyr at ei gilydd i ymladd yn erbyn yr awdurdodau newydd. Nid oedd fawr obaith i wrth-frenhinwyr adeg yr Adferiad; cafodd Jenkin Jones ei hun yng ngharchar Caerfyrddin; rhyddhawyd ef yn fuan, ond bu'r si ei fod yn casglu dilynwyr a thraddodi areithiau miniog yn rheswm dros ei garcharu'r eilwaith. Gyda'r ail garchariad hwn, diflanna o olwg hanes. Nid oes air amdano yn llyfrau ‘consistory’ Aberhonddu o 1660 i 1668; ac am y gred mai yr un oedd ef â'r Capten Jenkin Jones o Gilgerran rhaid yw ei gosod yn ddiogel iawn o'r neilltu. Prawf ewyllys sgwier Cilgerran mai gŵr wedi gwreiddio ar lannau Teifi ydoedd. Rhoddir enwau ei blant i lawr; nid oes sôn yno am Barzillai — un o feibion y sgwïer arall oedd ef, mab i Biwritan a dyfodd yn ddeon Lismore yn Iwerddon a changhellor eglwys gadeiriol Waterford.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/