Trigai yn Rhos y Gilwen yn rhan isaf y plwyf, a daeth i amlygrwydd yn 1656 drwy gefnogi Diffynwriaeth Cromwell drwy arwyddo ei enw ar yr Humble Representation and Address. Yn oes yr Adferiad sicrhaodd (drwy Stephen Hughes) drwydded o dan Ddedarasiwn 1672 i bregethu yn ei dŷ ei hun; ychydig oedd nifer ei ddilynwyr, meddai adroddiad Henry Maurice yn 1675; yn 'census' yr archesgob Sheldon, 1676, saith Anghydffurfiwr oedd yn y plwyf. O dan gynlluniau Iago II i roddi rhyddid crefyddol i bawb yn y wlad (ond yn fwyaf i Babyddion) awgrymwyd enw Jones fel ustus heddwch o Ymneilltuwr tebygol o roddi hwb a help i'r cynlluniau, ond nid oes rithyn o brawf y credai Jenkin Jones yn niffuantrwydd y brenin, nac y byddai'n debyg o weithredu'r cynlluniau pe dewisid ef. Prawf ei ewyllys, dyddiedig 2 Ionawr 1688-9 -profwyd hi yng Nghaerfyrddin ar 25 Mehefin - ei fod yn bur gefnog: cadwai bedair iau o ychen, mwy nag 20 o geffylau, ac yr oedd iddo lawer o diroedd a da yn siroedd Penfro a Chaerfyrddin. Arolygwyr ei ewyllys oedd Stephen Hughes a John Evans o Drefenty yn Abercywyn, uchel sirydd Caerfyrddin yn 1687-8; y tyst cyntaf oedd y John Thomas hwnnw a gadwai lygad ar Annibynwyr dwy ochr Teifi wedi marw Jenkin Jones, ac a dyfodd yn ddadleuwr mawr yn erbyn Bedyddwyr yr ardaloedd. Y mae lle i ofni na cherddodd y mab, THEOPHILUS JONES, yn llwybrau ei dad; beth bynnag, gwelir ei enw ymhlith yr Eglwyswyr da a gyfrannodd tuag at atgyweirio Eglwys Fair yn nhref Aberteifi, 1702-3. Priododd Ann, merch Theophilus, ac aeres tiroedd Rhos y Gilwen, ag un o deulu'r Colbys, Anglicaniaid pybyr. [Gweler hefyd Jenkin Jones (1623-)]
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.