Preswyliai yn Llwyn-y-grawys, Llangoedmor, ger Aberteifi; ni wyddys ddim am ei dras nac odid ddim am fanylion ei yrfa - dywedir, ond heb nodi unrhyw sail, iddo fod yn un o'r prifysgolion. Yr oedd yn aelod o gynulleidfa gymysg o Annibynwyr a Bedyddwyr ar lannau Teifi, a fu ar un adeg yn ymgynnull (ymhlith mannau eraill) yn Rhosgilwern, Cilgeran, y credir bod Jenkin Jones (bu farw 1689) yn byw ynddo. John Thomas oedd y tyst cyntaf i ewyllys Jenkin Jones, ac awgryma hyn efallai ei fod eisoes wedi ei urddo'n gydweinidog ag ef. Erbyn hynny, yr oedd pwnc bedyddio babanod yn corddi'r Ymneilltuwyr, a threfnwyd dadl gyhoeddus, yn 1691 neu 1692, rhwng John Thomas a John Jenkins (1656? - 1733), Rhydwilym, ar y mater; ciliodd y Bedyddwyr o'r gynulleidfa gymysg ac ymaelodi yn Rhydwilym. Yn 1709 canolbwyntiodd John Thomas ei eglwys ar dy cwrdd newydd yn Llechryd. Cymerth ran yn y 'synodau' a alwyd ynghyd i geisio terfynu ' dadl Henllan '; y mae'n amlwg ei fod yn ŵr o ddylanwad mawr, a sieryd arweinwyr y ddwyblaid yn Henllan â pharch mawr amadano. Nid yw ei enw yn rhestrau John Evans (tua 1715) ond y mae dogfen yn cadarnhau eiddo ei weddw yn nodi dyddiad ei farw ym mis Rhagfyr 1712.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.