Dywedir ei eni yng Nghilymaenllwyd yn 1656, a disgrifir ef ym more ei oes fel gŵr ' trach-wyllt, yn dilyn chwariaethau ofer a champau, yn ymddiosg i ymladd wrth chwarae Cnappan … ' Dywedir hefyd ei fedyddio yn 1677, ond o blwyf Spittal, yn ôl llyfr eglwys Rhydwilym, y daeth yr unig ŵr o'r enw y cofnodir ei fedyddio (12 Mai) y flwyddyn honno. Ymddengys ei enw ymhlith un-gweinidog-arddeg Rhydwilym yn 1689, a chyda throad y ganrif daeth yn arweinydd yr eglwys. Bu'n amlwg mewn dadl fedydd â John Thomas, gweinidog Annibynnol, o Lwynygrawys, Llangoedmor, yn 1691 (1692 yn ôl rhai ffynonellau), ac mewn ymraniad blin yn ei eglwys tua'r cyfnod 1724-6. Dywedir hefyd mai ef, yn 1718, oedd y cyntaf i dderbyn cymorth o'r ' Baptist Fund.' Bu farw 3 Gorffennaf 1733, yn 77 oed, a chladdwyd ef yn Rhydwilym.
Yr oedd ei frawd Dafydd yn henuriad yn Rhydwilym, a thybir mai brawd arall oedd yr Evan a restrwyd fel hwythau dan Gilymaenllwyd yn llyfr yr eglwys yn 1689; ceir cyfeiriad hefyd at ei ferch Jennett Richards, a llawer o sôn am ei fab Evan Jenkins a'i ŵyr y Dr. Joseph Jenkins, a fu ill dau yn weinidogion Hen Gapel Wrecsam.
Bu cyfrol wreiddiol o'i bregethau ym meddiant William Herbert, gweindog Maesyberllan, a Joshua Thomas, Llanllieni.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.