mab i EVAN JENKINS (1712 - 23 Mawrth 1752) a fu'n weinidog ar Hen Gynulleidfa Wrecsam am rai misoedd yn 1737 ac wedyn (ar ôl tymor yn Exeter) o 1740 hyd 1752; ac ŵyr i John Jenkins o Rydwilym. Nid oedd ond 9 oed pan fu farw ei dad, ond gofalodd Thomas Llewelyn am ei addysg yn Llundain; aeth i Brifysgol Aberdeen (M.A. 1765, D.D. 1790). Bedyddiwyd ef yn Llundain yn 1766, a Benjamin Francis yn pregethu. Yn 1769 aeth i gadw ysgol yn Wrecsam, a bugeilio diadell o Annibynwyr yn Crook's Lane, Caerlleon Fawr (yr oedd wedi dechrau pregethu yn Sgotland); ar adeg ffrwydrad mawr yn y ddinas y traddododd y bregeth a gyfieithwyd yn Gymraeg (1772) gan Benjamin Evans a oedd ar y pryd yn Llanuwchllyn. Yn 1773 (8 Medi) urddwyd ef ar hen eglwys ei dad - nid oedd ynddi ond 27 o aelodau, a disgynnodd y rhif i 10 yn ei gyfnod ef; gellir barnu nad oedd yn bregethwr poblogaidd, ond yr oedd yn drefnwr gofalus. Cynulleidfa gymysg o Fedyddwyr ac Annibynwyr, rydd-gymunol, oedd hi, ac arferai Jenkins 'gyflwyno' babanod, hyd yn oed fabanod Bedyddwyr; ond yn 1776 penderfynwyd mai eglwys gwbl Fedyddiedig fyddai hi pan âi ef oddi yno; ac yn 1778 gwnaethpwyd 'gweithred' newydd i'r perwyl hwnnw. Rhoes yr eglwys i fyny yn 1791, ond daliai i estyn cymorth ariannol hael iddi am amser wedyn. Ar farw Caleb Evans yn 1791, penodwyd ef yn llywydd athrofa Bryste, ond yn 1793 symudodd (oblegid anghydfod) i eglwys Blandford Street, Llundain, ac oddi yno i Walworth, lle y bu farw 21 Chwefror 1819; claddwyd yn Bunhill Fields. Cyhoeddodd gryn nifer o bregethau a thraethodau Saesneg (rhestr yn llyfr Price, isod, t. 203-5); yr oedd yn Galfin trwyadl.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.