WATKINS, THOMAS (17eg ganrif), pregethwr Piwritanaidd, Bedyddiwr Neilltuol

Enw: Thomas Watkins
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: pregethwr Piwritanaidd, Bedyddiwr Neilltuol
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Thomas Richards

Dyddiadau ei eni a'i farw yn ansicr. Daeth i'r amlwg fel negesydd i'r cyfarfodydd cyffredinol a drefnwyd gan John Miles o gwmpas 1650-56; ymddengys ei enw ef yng nghyfarfodydd y Fenni ac Aberafan. Cynrychiolai Watkins eglwys y Gelli, eglwys a'i chortynnau yn rhedeg ymhell, gan gynnwys Olchon, y cwm Cymreig diarffordd yn ne-orllewin sir Henffordd a gyfrifir yn aml fel cartref cyntaf y Bedyddwyr Cymreig. O dan bwys a dwyster Adferiad 1660 aeth eglwys y Gelli yn gandryll, a chyfyngodd Watkins ei waith i ddyffryn Olchon; yn gynnar yn Awst 1662, galwyd ef ac 16 eraill o'r ardal i ymddangos o flaen llys consistori Aberhonddu i egluro paham na ddeuent i wasanaethau eglwys y plwy'. Ond y digwyddiad mwyaf pwysig yn ei hanes oedd y daith a wnaeth, yng nghwmni William Prichard o'r Fenni, yn gynnar ym mis Gorffennaf 1668, i Rydwilym yn y gorllewin i sefydlu eglwys newydd yno o dan arweiniad William Jones, gŵr a fedyddiwyd yn Olchon ychydig amser cyn hynny. Dywedir weithiau mai Watkins a fedyddiodd William Jones, ond pan gofir am amlygrwydd Prichard fel arweinydd, a phan ddarllenir geiriau hen lyfr eglwys Rhydwilym, nid oes fawr ddadl nad y gŵr o'r Fenni a weinyddodd yr ordinhad. Pan wnaed Cyfrifiad Sheldon yn 1676, nid oedd dim llai na 220 o 'sectariaid' ym mhlwy Clodock (dyna enw'r plwy' yr oedd cwm Olchon ynddo), a diamau mai disgyblion Thomas Watkins oedd y rhan fwyaf ohonynt; siomedig felly yw darllen mewn dogfen a gyhoeddwyd yn 1690, nad oedd aelodau ei eglwys uwchlaw 30. Disgrifir ef yn yr un ddogfen fel hen weinidog blinedig, ei ynni'n pallu a'i wasanaeth ymron ar ben, ond yn derbyn llawer o gymorth gan eraill, yn enwedig Thomas Parry, gweinidog Llanigon a'r Gelli. Y mae'n bur debyg i Watkins farw oddeutu 1695.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.