PARRY, THOMAS (bu farw 1709), gweinidog y Bedyddwyr Neilltuol

Enw: Thomas Parry
Dyddiad marw: 1709
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog y Bedyddwyr Neilltuol
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Thomas Richards

yn Llaneigon a'r Gelli yn nyddiau'r Adferiad a chyfnod cynnar Deddf Goddefiad. Yr oedd yn arwyddo cofnodion cymanfa'r Fenni yn 1653 a chofnodion cymanfa Llanwenarth yn 1705; rhwng y blynyddoedd hynny bu mewn dwfn brofedigaethau oherwydd y cyfreithiau celyd, fel y prawf ei ymddangos aml o flaen llys 'consistory' Aberhonddu. Trigai yn y Wenallt ger Llaneigon. Adroddir am ei gyfeillgarwch â Vavasor Powell, ond nid ar ryw seiliau sicr iawn; a dywedir hefyd iddo fugeilio Bedyddwyr gogledd Brycheiniog a gorllewin Maesyfed, ond rhaid yw cofio bod aroglau trwm o Arminiaeth a rhydd-gymundeb ar y Bedyddwyr hynny, ac mai Bedyddiwr caeth oedd Thomas Parry. Anaml y cyfeirir ato heb ddyfynnu'r rhigwm a'i cymhara'n ffafriol iawn fel pregethwr ag offeiriad y Gelli.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.