EDWARDS (TEULU), Cilhendre a Plas Yolyn, Sir Amwythig.

Yr oedd y teulu goror hwn yn hawlio eu bod yn disgyn o Iddon ap Rhys Sais Cilhendre, a briododd ferch Sir John Done, yntau hefyd yn sylfaenydd teulu Myddelton a theulu John Jones 'y brenin-laddwr '. Mabwysiadwyd y cyfenw yn gynnar yn yr 16eg ganrif eithr ni ddaeth y teulu i amlygrwydd hyd yr 17eg ganrif - ym mherson THOMAS EDWARDS (1592 - 1667), Cilhendre a Plas Yolyn, cyfaill mynwesol yr ail Syr Thomas Myddelton. Yr oedd ef yn un o'r cenhadon sifil y rhoddwyd awdurod iddynt gan Thomas Mytton i drefnu telerau darostwng sir Fôn (Mai - Mehefin 1646) a Harlech (16 Mawrth 1647); daeth yn rheolwr Wrecsam yn 1647. (Cyfyrder iddo, y mae'n fwy na thebyg, ydoedd y Thomas Edwards, Amwythig, a oedd yn siryf swydd Amwythig yn 1644 ac a wnaethpwyd yn farwnig yn 1645 - gweler J. R. Phillips, Civil War, ii, 43, G.E.C., Baronetage, ii, 243.) Parhaodd Thomas Edwards yn gyfeillgar â'i gyd-gennad John Jones 'y brenin-laddwr,' a phriododd ei fab, THOMAS EDWARDS, M.D. (bu farw 1668), nith John Jones, sef merch Watkin Kyffin, cynrychiolydd Syr Thomas Myddelton ar ystad Castell y Waun. Dywed traddodiad i Jones fod yn aros yn Cilhendre ym mis Mai 1660 cyn dychwelyd i Lundain i wynebu ei dynged; mewn blynyddoedd diweddarach ymwelai ei fab John â'i gyfnither (a oedd bellach yn weddw) yn Cilhendre; cymerodd brydles ar y tŷ yn 1688 a bu farw yno c. 1717. Priododd Judith, merch ac aeres Thomas Edwards, JOHN MORRALL, Plas Yolyn, a buont hwy a'u disgynyddion yn byw yn Plas Yolyn - tynasid Cilhendre i lawr yn 1794. Daeth papurau a dogfennau'r teulu i'r Llyfrgell Genedlaethol yn 1937.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.