EDISBURY (TEULU), Bedwal, Marchwiel, Pentreclawdd, ac Erthig, sir Ddinbych.

Teulu o swydd Gaer ydoedd hwn, yn disgyn o Wilkin de Edisbury. Fe'u ceir yn gyntaf yn sir Ddinbych c. 1544, pan ddaliai RICHARD WILKINSON, neu EDISBURY, diroedd yn Bedwal. Ychwanegodd ei fab iau ef, ROBERT WILKINSON EDISBURY, at ei ystad trwy briodi Jane, merch Kenrick ap Howel o Stryt yr Hwch, Marchwiel. Aeth eu mab hwy, KENRICK EDISBURY (bu farw 1638), i wasnaethu y ' Navy Board,' efallai trwy ddylanwad Syr John Trevor, a ddilynwyd fel ' Surveyor ' gan Edisbury (17 Rhagfyr 1632). Pan gafodd Edisbury y swydd o ' Surveyor ' fe'i llanwodd â'r fath drylwyredd nes iddo allu cynorthwyo Siarl I mewn modd neilltuol yn y gwaith o ad-drefnu'r llynges. Ar 30 Awst 1630 prynodd ystad Pentreclawdd. Bu farw 27 Awst 1638, yn Chatham, lle y coffeir ef gan arysgrif a cherflun da yn eglwys S. Mary, a beddargraff ei dad, a fu farw yno pan oedd ar ymweliad, yn ochr un y mab. Yr oedd gan ei aer, JOHN EDISBURY (c. 1608 - 1677), swydd o dan y Navy Office hefyd. Cafodd ef ei addysg yn y Queen's College, Rhydychen (ymaelodi yno 30 Ebrill 1624), ac yr oedd yn fargyfreithiwr o'r Middle Temple (1634). Gan ei fod yn gefnogydd i'r brenin Siarl, daeth lluoedd y Senedd ar ei warthaf ym Mangor Iscoed ar 16 Chwefror 1643, eithr rhyddhawyd ef (trwy gyfnewid) ac yn 1646 daeth yn ystiward Chirkland o dan Syr Thomas Myddelton (1586 - 1666). Rhoes hyn ddylanwad iddo gyda'r blaid a orfu, a gwnaethpwyd ef ganddynt yn ynad heddwch (yn erbyn ei ewyllys braidd) ac yn gomisiynwr trethi'r Llywodraeth a milisia (1648) y sir; deisyfodd, a llwyddodd i gael, y swydd o ' prothonotary ' a chlerc dros siroedd Dinbych a Threfaldwyn oblegid fod ei ragflaenwyr yn y swydd wedi troseddu ('delinquents'); yn 1654 cafodd stiwardiaeth Croesoswallt hefyd. Eithr o adeg dienyddio'r brenin hyd 1657 ymgadwodd rhag cydweithredu mewn pwyllgorau lleol. Yn y cyfamser yr oedd wedi prynu y rhan fwyaf o ystad Erthig - yr oedd yr hen deulu Cymreig wedi bod yn gwerthu rhannau o honno o bryd i bryd er eu bod yn cadw'r hen gartref treftadol, sef Erthig Fechan ('Little Erthig'). Priododd; yn ail wraig, Christian, merch ei noddwr, a gweddw Syr Roger Grosvenor, Eaton, gerllaw Caer; bu raid iddo, yn 1675, dalu'n ôl i'w phlant hi (o'i phriodas gyntaf - yr oeddynt yn wardiaid iddo) symiau mawr o arian a gymerasid oddi arnynt ar gam. Daeth ei fab hynaf, JOSUA EDISBURY (bu farw c. 1718), a addysgwyd yng Ngholeg y Trwyn Pres, Rhydychen, yn siryf sir Ddinbych yn 1682; yn 1684 dechreuodd adeiladu, ar raddfa afradus, blasty newydd yn Erthig, ac oherwydd hyn (a cholli arian hefyd trwy anturio'n rhy fyrbwyll ynglŷn â gweithydd plwm yn y gymdogaeth) bu raid iddo orfenthyca arian ar ei eiddo. Erbyn 1708 yr oedd Pentreclawdd a thiroedd eraill wedi eu meddiannu gan Syr John Trefor (1637 - 1717), un o'r echwynwyr pennaf ac un o gydymgeiswyr gwleidyddol y Myddeltoniaid, noddwyr Edisbury, a delid Erthig gan ymddiriedolwyr ar ran yr echwynwyr. Bu i'w frawd, JOHN EDISBURY (c. 1646 - 1713), ei andwyo ei hun trwy gamddefnyddio arian er ceisio helpu ei frawd; buasai yntau, fel ei frawd, yng Ngholeg y Trwyn Pres (9 Tachwedd 1661), daeth yn D.C.L. yn 1672, yn bleidydd yn Doctors' Commons, yn aelod seneddol dros Brifysgol Rhydychen (1678-9), ac yn Feistr yn Llys y Siansri (1684-1708). Prynwyd Erthig yn 1718 gan JOHN MELLOR (mab i frethynnwr o Lundain), olynydd John Edisbury yn ei swydd, a thrwy ei nai ef, SIMON YORKE, y daeth Erthig i feddiant y perchenogion presennol.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.