LEWIS, DAVID (alias Charles Baker) (1617 - 1679), Jesiwit a merthyr

Enw: David Lewis
Ffugenw: Charles Baker
Dyddiad geni: 1617
Dyddiad marw: 1679
Rhiant: Margaret Lewis (née Prichard)
Rhiant: Morgan Lewis
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: Jesiwit a merthyr
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Arthur Herbert Dodd

Ganwyd yn y Fenni, mab y Parch. Morgan Lewis, ysgolfeistr cyntaf (fel y tybir) ysgol ramadeg y Fenni, a Margaret Prichard, nith Augustine Baker. Yr oedd ei fam yn Babyddes yn ei phroffes, ac oblegid hyn ac oherwydd bod yn yr ysgol nifer o blant Pabyddion, a bod y Tad Augustine yn cymryd diddordeb ynddynt, buwyd yn holi cwestiynau ynghylch y tad Baker yn Senedd 1626; hysbyswyd ei fod yn 'very conformable' er yr ymddengys iddo ymgymodi â Rhufain yn y diwedd. Dygwyd y plant i fyny bron i gyd yng nghrefydd eu mam, eithr ymddengys i David gydffurfio hyd ei dröedigaeth ym Mharis trwy'r Tad Talbot pan oedd ar ymweliad yno yng nghwmni arglwydd Rivers (c. 1633). Ddwy flynedd ar ôl iddo ddychwelyd i'w wlad, ymadawodd am Rufain (22 Awst 1638) gyda chyflenwad o arian a gawsai gan y Tad Charles Gwynne; aeth i'r English College ar 16 Tachwedd, a chafodd ei urddo'n offeiriad ar 20 Gorffennaf 1642. Yn 1645 (19 Ebrill), o dan ddylanwad ei ewythr, y Tad John Prichard (neu Lewis), S.J., aeth i berthyn i urdd y Jesiwitiaid, ac ar ôl gorffen ei gwrs fel newyddian ('novitiate') yn Rhufain a gwasnaethu am gyfnod byr fel cyffeswr i'r English College, fe'i danfonwyd i Dde Cymru ar genhadaeth yn 1648; bu'n gweinidogaethu yno i'r llu o deuluoedd Catholig a oedd yn y cylch, gan fyw am flynyddoedd gyda Morganiaid Llantarnam, teulu yr oedd perthynas rhyngddo a hwynt, a dyfod yn bennaeth ('Superior') Cenhadaeth S. Francis Xavier (gyda'i ganolfan yn Cwm, Swydd Henffordd) o 1667 hyd 1672 ac o 1674 hyd 1679. Pregethai yn Saesneg ac yn Gymraeg, ac fe'i hadnabyddid, yn y cylch, mewn dull caruaidd, fel ' tad y tlodion.' Er bod achwyniadau o'i blegid yn digwydd yn fynych, ni flinwyd arno hyd adeg ofnus y ' Popish Plot,' sef 1678; y flwyddyn honno, oherwydd fod yr aelod seneddol, John Arnold, Llanfihangel Crucorney, ac eraill, yn pwyso, fe'i cymerwyd i'r ddalfa pan oedd ar ei ffordd i'r eglwys i weinyddu gwasanaeth yr offeren (17 Tachwedd) a bu yng ngharchar yn y Fenni, Trefynwy, a Brynbuga (yn olynol); fe wrandawyd yr achos ym mrawdlys sir Fynwy yng Nghaerbuga (28 Mawrth 1679), ac fe'i cyhuddwyd o dan ddeddf a gawsai ei phasio yn 27 Elizabeth - yr unig achwyniad oedd ei fod yn offeiriad mewn urddau a roddasid arno mewn gwlad dramor. Cyhoeddir yn State Trials, vii, 250-9, adroddiad a gadwodd Lewis ei hunan o'r achos yn y llys. Fe'i cafwyd yn euog, ac fe'i hanfonwyd i Lundain a'i roddi yng ngharchar Newgate (23 Mai); yno daethpwyd ag ef wyneb yn wyneb ag Oates, Bedloe, a'r iarll Shaftesbury ei hunan, yn y gobaith y ceid rhyw ddadleniad ynglŷn â'r cynllwyn tybiedig; eithr gan na fu dadleniad fe'i hanfonwyd yn ôl i Frynbuga a rhoddwyd ef i farwolaeth yno ar 27 Awst 1679. Fe'i sancteiddiwyd gan Eglwys Rufain ar 15 Rhagfyr 1929.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.