Ganwyd 9 Rhagfyr 1575 yn y Fenni o hen deulu lleol a oedd ond newydd fabwysiadu'r cyfenw Seisnig. Yr oedd ei dad, William Baker, yn ddyn o ysbryd cyhoeddus a wnaeth lawer dros dyfu ffrwythau a'r diwydiant defnyddiau dillad yn ei ardal; yr oedd hefyd yn ynad heddwch ac yn stiward ar arglwyddiaeth Bergavenny. Yr oedd ei fam, Maud Lewis, yn ferch Lewis Wallis, ficer y Fenni, ac yn chwaer i Dr. David Lewis (1520? - 1584) tad bedydd David Baker. Cydymffurfiodd y rhieni (ond nid gyda brwdfrydedd) â'r Eglwys fel y'i trefnwyd yn nheyrnasiad Elisabeth, a meithrin eu plant yn y grefydd honno. Yn 12 oed anfonwyd David i Christ's Hospital, yn bennaf er gwella ei Saesneg; oddi yno aeth (1590) i Broadgates Hall, Rhydychen, i'w addysgu gan William Prichard, perthynas iddo a oedd yn Christ Church ac a ddaeth yn ficer y Fenni a Chaerwent. Gan nad oedd ei dad yn fodlon ar ei gynnydd fel ysgolhaig galwyd David yn ôl a rhoddwyd ef (1592) i ddysgu'r gyfraith gyda'i frawd Richard, conadur y Fenni; yn 1596 aeth i Cliffords Inn a'r Inner Temple i gwpláu ei astudiaeth. Gwnaeth marw ei frawd yn 1598 iddo ddychwelyd i'r Fenni a'i ddilyn fel cofiadur. Ailddysgodd yma Gymraeg (a anghofiasai yn Llundain), a bu'n abl i siarad yr iaith weddill ei oes.
Yn 1603, trwy ddylanwad Richard Lloyd, efrydydd yn y Coleg Seisnig yn Rhufain, cymododd Baker a chrefydd Eglwys Rhufain. Pan oedd ar ei ffordd adref digwyddodd gyfarfod â'r Tad William Watson a pharodd hyn i'r awdurdodau gredu fod a fynno ef rywbeth â'r ' Bye Plot,' ond ni chyhuddwyd mohono. Ymunodd (1605) â brawdoliaeth Fenedictaidd St. Justinian yn Padua, gan gymryd Augustine yn enw crefydd iddo'i hun. Yma dysgodd Eidaleg, a daeth i adnabod Cymro arall, Dr. Griffith, cyffeswr lleiandy ym Milan. Dychwelodd yn 1606 a llwyddodd i gael amryw o'i berthnasau a'i gymdogion i newid eu crefydd. Yn eu plith yr oedd ei chwaer, gwraig William Parry, Llanover (a oedd yn Gatholig); parhaodd hi'n gref yn y ffydd newydd pryd y bu i'w gwr betruso llawer pan ddaeth erledigaeth. Daeth y tad drosodd hefyd - o dan ddylanwad Dr. Morgan Clynog, nai Morus Clynnog. Yn 1607 bu'n foddion i ail-ymgorffori aelodau urdd y Benedictiaid yn Lloegr trwy Dom Sigebert Buckley, gwr y dywedir ei hanu o Fiwmares.
Ordeiniwyd Baker yn offeiriad yn Rheims yn 1613 a bu'n byw am gyfnod yn nhai rhai teuluoedd Seisnig a oedd yn Gatholig a chadw mewn cysylltiad a De Cymru. Bu iddo dalu am gynhaliaeth dau wr ifanc yn Douay, sef ei nai, a ymunodd â'r Iesiwitiaid yn ddiweddarach, a Philip Morgan (neu Powel), gwr y bu'n dysgu'r gyfraith iddo o 1610 hyd 1614 ac a ferthyrwyd yn 1646. Bu hefyd yn cymeradwyo llawer o blant Catholigion i ysgol ramadeg y Fenni pan oedd honno o dan ofal Morgan Lewis, gwr ei nith Margaret Prichard a thad David Lewis (neu Charles Baker, 1617 - 1679), y merthyr Catholig Cymreig diwethaf. Yn raddol, fodd bynnag, peidiodd Baker ag ymweled a hen gyfeillion, rhag tarfu arnynt, gan fyw mewn unigedd yn nhy ei chwaer Mrs. Henry Prichard pan âi adref a gadael y ty o bryd i bryd i roi cyngor cyfreithiol yn ddi-dâl i'w gyfeillion neu i'r tlodion. Tua diwedd ei oes gofynnwyd ei farn ar fater cael siarter newydd i'r fwrdeisdref, ond gwrthododd ymddangos gerbron y cyhoedd yn y mater. Talodd ei ymweliad olaf yn 1620 a dwyn gydag ef yn gydymaith Leander Prichard (nai, efallai) - ei gofiannydd wedi hynny. Treuliodd weddill ei oes yn Lloegr neu ar y Cyfandir - yn Douai a Cambrai; gweler y D.N.B., ii, 2-5, a chyfrolau'r Catholic Record Society am fanylion pellach.
Bu Baker farw 9 Awst 1641. Casglodd ddefnyddiau ar hanes urdd y Benedictiaid Seisnig a chawsai bob rhwyddineb i gael gweld y cofysgrifau; rhoddwyd trefn ar y defnyddiau hyn gan ei gyfaill John Leander Jones (1575 - 1636), ac y maent yn parhau i gael eu hystyried yn ffynhonnell o bwys. Gadawodd ar ei ôl draethodau anorffenedig ar hanes eglwysig a chyfraith Lloegr, ynghyd a gweithiau ar ddiwinyddiaeth a chyfriniaeth y mae gan aelodau ei urdd feddwl uchel ohonynt. Rhydd ei hunangofiant (a ysgrifennwyd yn 1637-8) inni ddarlun o ddyn o gymeriad syml, diffuant, a chariadus - dyn yn ymddiddori mewn canu a rhodianna yn y wlad a chanddo hefyd ddawn arbennig i drosglwyddo dysg grefyddol a moesol mewn Lladin cartrefol a rhigymau Saesneg (fe'u casglwyd yn 1636).
Dywed Dom. J. McCann amdano: 'a striking, if not a unique, figure in the history of post-Reformation English Catholicism,' a disgrifia W. Llewelyn Williams ef fel hyn: 'the last Welsh Catholic who played a large part in the history of Catholicism in England.'
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.