WILLIAMS, JOHN (fl.1603-27), gof aur

Enw: John Williams
Plentyn: John Williams
Rhiant: William Coetmor
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gof aur
Maes gweithgaredd: Celf a Phensaernïaeth; Diwydiant a Busnes
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Mab i William Coetmor ac wyr i John Coetmor a oedd yn fab gordderch (y 23ain plentyn) i Feredydd ab Ieuan ap Rhobert o'r Gesail Gyfarch, Eifionydd - hanner-brodyr i John Coetmor oedd Humphrey Wynn o'r Gesail Gyfarch a Chadwaladr Wynn o'r Wenallt yn Nanhwynen ('Nant Gwynant') - gweler J. E. Griffith, Pedigrees, 280-1, 393. I bob golwg, ganwyd John Williams yn yr Hafod Lwyfog, Nanhwynen, serch mai i deulu Cadwaladr Wynn (uchod) y perthynai Nanhwynen, ac mai trigiannydd yr Hafod yn 1638 oedd Evan Lloyd, o'r Gesail Gyfarch; eithr gwyddys i John Williams roi llestri cymun i eglwys Beddgelert yn 1610 a hefyd ailgodi'r capel anwes yn Nanhwynen yn yr un flwyddyn - rhodd brodor fyddai hynny, gellid meddwl. Yr oedd ganddo frawd o'r enw Humphrey (Cal. Wynn Papers, 483), a oedd yn ei fusnes gydag ef. Anhysbys yw adeg geni'r ddau; ni wyddys chwaith pa bryd yr aethant i Lundain. Y tro cyntaf y clywir am enw John Williams yn Calendar of State Papers, Domestic Series yw ar 30 Mawrth 1604, pan delir iddo fel 'one of the King's goldsmiths,' ac ar 23 Hydref yn yr un flwyddyn y mae'r sôn cyntaf amdano yn Cal. Wynn Papers; ond wrth gwrs y mae'n rhaid ei fod wedi bod yn Llundain (yn y ' Cross Keys,' Cheapside) gryn amser cyn hynny, a chael cryn enw yn ei grefft. Derbyniwyd ef yn aelod o Gray's Inn, 9 Awst 1612 (' John Williams, goldsmith to the King'), er anrhydedd mae'n debyg, oblegid cofnodir derbyn amryw wyr blaenllaw, nad oedd dim a wnelent â'r gyfraith, yn yr un cyfnod. Ymddengys ei enw'n weddol fynych yn Calendar of State Papers, Domestic Series a Cal. Wynn Papers (mynegeion) hyd ddiwedd teyrnasiad Iago I; ond y cyfeiriad olaf ato ym mhapurau Gwydir yw 1389, Chwefror 1626, ac nid ymddengys yn Calendar of State Papers, Domestic Series, hyd y gellir barnu, ar ôl Medi 1627 - wrth gwrs, ni ellir bod yn sicr nad yw'n llechu dan ryw ' John Williams ' neu ' Williams ' arall yn y mynegeion. Yr argraff a adewir arnom yw fod ei gyswllt â'r llys wedi peidio gyda theyrnasiad Iago, i bob pwrpas; gellir dyfalu tybed ai ef oedd yr 'old Mr. Williams' yr hysbysir ei farw yn Calendar of State Papers, Domestic Series dan 23 Awst 1628. Yr oedd ei fusnes yn flodeuog, a gweithredai hefyd fel math o fancer. Dengys papurau Gwydir y byddai'n rhoi benthyg arian (£500 ar un achlysur) i'w 'cousin' Syr John Wynn - ac yn cael cryn drafferth i'w gael yn ôl; y cyfeiriad olaf ato yn y papurau (1389) yw apêl ato gan Wynn i fod yn ymarhous - edrydd Owen Wynn wrth ei dad fod Williams 'wedi ymddyrchafu' er pan gwympodd yr esgob John Williams allan o ffafr. Bryd arall (Rug Deeds yn LL.G.C., rhif 759 - a chymharer Cal. Wynn Papers, 588, 615), cawn ef, ddechrau 1615, yn cymryd Bachymbyd a thiroedd eraill yn wystl gan William Salesbury o'r Rhug. Ond yr oedd ganddo ddiddordebau heblaw ei aur. Hoffai lenyddiaeth a hynafiaethau; cyflwynodd yr epigramydd John Owen ddau epigram (yn 1607 a 1613) iddo, gan ei gyfarch fel câr. Yn y rhagymadrodd i Polyolbion Drayton, 1612, sonia'r bardd hwnnw am y pleser a gâi yng nghymdeithas ei 'annwyl gyfaill, gwr mawr ei gariad at ei wlad enedigol,' a roes i Drayton lawer o wybodaeth am hen hanes Cymru - ac edrydd gwr arall i John Williams roi rhai o bapurau'r hynafiaethydd Leland (bu farw 1552) i Drayton.

Priododd Williams â gweddw rhyw Isaac, gof arian (awgryma J. E. Griffith, op. cit. 393 a 359, mai dyn o Lanfrothen oedd hwnnw).

Cymysgwyd John Williams o'r Hafod Lwyfog gan rai ysgrifenwyr â gwr arall, llawer mwy adnabyddus, o'r un enw, sef y ' Sir John Williams, maister of the kinges jewels,' yr edrydd Stow (Survey of London, arg. ' Everyman,' 264) hanes llosgi ei dy yn 1541. Adroddir hanes y gwr hwnnw - JOHN WILLIAMS (1500? - 1569), ' Baron Williams of Thame ' - yn helaeth yn y D.N.B.; bu'n geidwad gemau Harri VIII o 1531 hyd 1544. Yr oedd o dras Cymreig - yn ddisgynnydd William ap Grono o Forgannwg (Clark, Limbus Patrum, 127-8), ac yn gâr i Thomas Cromwell (Williams); ond ar wahân i fod yn llywydd Cyngor y Goror ym mlwyddyn olaf ei fywyd (yn Llwydlo y bu farw), ni bu ddim a wnâi â Chymru.

Yr oedd mab John Williams,

JOHN WILLIAMS (bu farw 1637), gof aur

(yn S. Peter's, Eastcheap), ond hefyd yn wr tiriog yn Marnhull, Dorset. O bedwar mab hwnnw, urddwyd yr hynaf, Edmund, yn farwnig yn 1642, a'r ail, John, ' of Minster in the Isle of Thanet,' yntau'n farwnig yn yr un flwyddyn; yr oedd mab arall, Syr Morris (marchog), yn ffisigwr i'r frenhines. Daeth y ddwy farwnigiaeth i derfyn buan yn niffyg aerod gwrywol (G.E.C., Complete Baronetage, ii, 168).

Awdur

Ffynonellau

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.