GLYNNE (TEULU), Penarlâg, Sir y Fflint.

Cangen oedd y teulu hwn o deulu Glyn, Glynllifon, Sir Gaernarfon, y gellir olrhain ei achau yn ôl i Cilmin Droed-ddu, sefydlydd pedwerydd llwyth Gwynedd. Yn 1654 prynodd JOHN GLYNNE (1602 - 1666), ail fab Syr William Glynne, Glynllifon, gastell Penarlâg, y faenol, a'r stad a berthynai iddi. Addysgwyd ef yn Ysgol Westminster, a derbyniwyd ef i Hart Hall, Rhydychen, 9 Tachwedd 1621, ac i Lincoln's Inn, 27 Ionawr 1620. Gwnaed ef yn fargyfreithiwr ar 24 Mehefin 1628, a dewiswyd ef yn aelod seneddol dros fwrdeisdref Caernarfon, a Westminster yn 1640. O gychwyn ei yrfa seneddol eisteddodd ar nifer o bwyllgorau, ac oherwydd ei grynhoad pwyllog, didrugaredd, o achos y Senedd yn erbyn yr iarll Strafford, enillodd yntau ei fuddugoliaeth fawr gyntaf. Yn eu tro ceisiodd ffafr yng ngolwg Cromwell a'r brenin Siarl II. Yn ystod y Weriniaeth daliodd y swyddi amrywiol a ganlyn: rhingyll y gyfraith, barnwr i'r frawdlys, ac arglwydd farnwr yr uchel fainc. Trwy lynu wrth y blaid Bresbyteraidd o 1645, enynnodd ddigofaint y fyddin, ac ar gyhuddiad o deyrnfradwriaeth fe'i diaelodwyd gan y Senedd a bwriwyd ef i'r Twr, 8 Medi 1647, lle'r arhosodd hyd 23 Mai 1648. Fe'i hailetholwyd yn aelod seneddol dros sir Gaernarfon, 1654-5, ac Ebrill-Rhagfyr 1660. Gyda rhagwelediad gwleidyddol craff ymddiswyddodd o'i swyddi cyfreithiol, ac ni chollodd amser cyn pleidio dychweliad y frenhiniaeth. Gwnaed ef yn farchog ar 16 Tachwedd 1660, ac yn fuan wedyn yn brif sersiant. Priododd (1) Francis, merch Arthur Squib, a (2) Anne, merch John Manning. Perchnogai stadau yn Henley, Surrey, Bicester, Rhydychen, a Phenarlâg, swydd Fflint. Bu farw yn 64 mlwydd oed yn ei dy yn Llundain, 15 Tachwedd 1666, ac yn unol â'i ddymuniad yn ei ewyllys a ddyddiwyd 15 Awst 1664 (ceir copi ohoni yng nghasgliad dogfennau Penarlâg yn Ll.G.C.) fe'i claddwyd gyda'i wraig gyntaf o dan allor eglwys S. Margaret, Westminster.

Fe'i dilynwyd gan ei fab WILLIAM GLYNNE (bu farw 1689), a wnaed yn farwnig pan ddosbarthwyd anrhydeddau i ddathlu'r Adferiad. Fe'i haddysgwyd yng Ngholeg Iesu Rhydychen a chymerodd radd ar 25 Mawrth 1656. Yn Ionawr 1658 fe'i hetholwyd i gynrychioli sir Gaernarfon yn Senedd Richard Cromwell. ‘Roedd yn uchel siryf sir y Fflint yn 1673 ac etifeddodd stad Penarlâg ar farwolaeth ei dad. Priododd Penelope Anderson. Eu mab hwy, WILLIAM GLYNNE, 1662 - 1721), oedd yr ail farwnig, ac etifeddodd yntau stadau'r teulu. Addysgwyd ef hefyd yn Rhydychen, a chynrychiolodd yr etholaeth honno yn Senedd 1698. Gwnaed ef yn D.C.L. gan Brifysgol Rhydychen yn Ebrill 1706. Ar 5 Gorffennaf 1688 priododd Mary, merch Syr Edward Evelyn, Long Ditton, yn eglwys S. Giles-in-the-Fields. Yr oedd eu hunig fab, WILLIAM GLYNNE (1689 - 1719), yn M.A. (Rhydychen) ac yn gymrawd o Goleg yr Holl Eneidiau. Bu Syr William farw yn 1721, ac olynwyd ef gan ei frawd STEPHEN GLYNNE (bu farw 1729), 3ydd barwnig, a briododd Sophia, chwaer y Lady Mary Glynne. Bu ef farw Ebrill 1729, ac ym mis Gorffennaf yr un flwyddyn dilynwyd ef gan ei fab hynaf a'i olynydd STEPHEN GLYNNE (bu farw 1729), 4ydd barwnig. Etifeddwyd y teitl a'r stadau yn awr gan yr ail fab, WILLIAM GLYNNE (1709 - 1730), 5ed barwnig, a fu farw yn ddi-briod yn Aix-la-Chapelle fis wedi dyfod i'w oed. Olynwyd yntau gan ei frawd JOHN GLYNNE (1713 - 1777), 6ed barwnig, a dderbyniwyd i Goleg y Frenhines, Rhydychen, 13 Tachwedd 1730, ac a wnaed yn D.C.L. 7 Gorffennaf 1763. Dywedir iddo ef wario £35,000 mewn ymdrech etholiadol ofer â Syr George Wynne am sedd bwrdeisdref y Fflint yn 1734. Eithr wedi hynny bu'n aelod seneddol dros sir y Fflint yn 1741-7, a thros y Fflint, 1753-77. Ef oedd uchel siryf sir y Fflint yn 1751. Bu ei briodas â Honora Conway (gweler Ravenscroft), aeres Henry Conway o Broadlane House, yn achos helaethu stad Penarlâg gymaint arall. Yn 1752 cododd gastell newydd Penarlâg yn gartref i'r teulu, a helaethwyd ef yn 1809. Bu ei wraig farw yn 1769, ac ar 27 Mawrth 1772 priododd yntau Augusta Beaumont. Bu Syr John farw'n ddisymwth, 1 Gorffennaf 1777, ac olynwyd ef gan ei drydydd mab, STEPHEN GLYNNE (1744 - 1780), 7fed barwnig, a anwyd 12 Mai. Addysgwyd ef yng Ngholeg y Frenhines, Rhydychen, aeth yn offeiriad, a bu'n rheithor Penarlâg. Yn 1779 priododd Mary, merch Richard Bennett, Farmcott, Sir Amwythig. Ar 1 Ebrill dilynol torrodd wythïen waed tra'n hela, a bu farw'n union. Ganwyd ei unig fab, STEPHEN RICHARD GLYNNE (1780 - 1815), 8fed barwnig, fis wedi marw'i dad. Fe'i addysgwyd yn Eton a Christ Church, Rhydychen, a daeth yn amaethwr taer a chanddo ddiddordeb mawr mewn pensaernïaeth. Yn 1806 priododd, yn eglwys S. Siôr, Hanover Square, Llundain, Mary, ail ferch Richard, arglwydd Braybrooke. Bu farw'n ddisyfyd yn Nice, 5 Mawrth 1815, ac olynwyd ef gan ei fab STEPHEN RICHARD GLYNNE (1807 - 1874), 9fed barwnig. Cafodd ef ei addysgu yn Eton, a Christ Church, Rhydychen (B.A. 1828, M.A. 1831), ac yn y ddau le hyn cyfarfu â W. E. Gladstone a briododd Catherine, chwaer Syr Stephen, 25 Gorffennaf 1839. Cynrychiolodd dre'r Fflint fel Rhyddfrydwr, 1832-7, a'r sir am y 10 mlynedd dilynol, a bu'n arglwydd raglaw 'r sir am lawer blwyddyn. Teithiodd yn helaeth iawn ar gyfandir Ewrop. Ei ddiddordeb pennaf oedd chwilio hen eglwysi, a dywedir iddo gasglu nodiadau ar 5,530 o eglwysi ym Mhrydain yn unig. Yr oedd yn ysgolhaig da, a chanddo gof eithriadol, a hoffid ef gan bawb am ei goethder hynod. Bu farw'n ddi-ddisgwyl tra'n ymweld â Llundain, 17 Mehefin 1874, ac am ei fod yn ddibriod darfu am y teitl. Trwy drefniant aeth y stadau yn eiddo William Henry, mab hynaf W. E. Gladstone.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/