Mab hynaf Gruffydd Ellis ap Risiart o Frondeg gerllaw Bersham. Daethai y teulu o Hopedale i gychwyn, a hawliai ddisgyn ohono ar yr ochr wrywol (eithr yn anghyfreithlon-'with a bar sinister') o Sandde Hardd, gorchfygwr Hopedale (c. 1100), ac, ar yr ochr fenywol, o Stanleiaid Ewloe.
Y mae'n debyg mai trwy ei ewythr PETER ELICE (bu farw 1637), Wrecsam, gŵr dysgedig yn y gyfraith a hynafiaethydd, y defnyddiwyd ei gasgliad achau yn helaeth gan Robert Vaughan, Hengwrt, y cafodd Robert Ellice ystad Gwasnewydd (Croesnewydd yn awr) yn nhrefgordd Broughton a phlwyf Wrecsam; bu ei deulu'n byw yno hyd tua diwedd yr 17eg ganrif; eithr yn 1646 disgrifir ef fel 'of Ruabon.' Bu'n ymladd o dan Gustavus Adolphus yn rhyfel 1618-48. Pan dorrodd y Rhyfel Cartrefol allan yn ei wlad ei hun cymerodd gastell y Waun (Chirk), sedd y Pengrwn Syr Thomas Myddelton; yr oedd yn ben ar 600 o wŷr traed o Gymry a gurwyd yn Middlewich, sir Gaer, fis Mawrth 1643, a chafodd yntau ei gymryd i'r ddalfa. Wedi iddo gael ei ryddhau fe'i gwnaethpwyd yn ben dros y brenin yn siroedd Dinbych a Fflint a chanddo 1,200 o ddynion dano; bu'n eu harwain mewn ymgyrchoedd o gwmpas Wem (Mawrth 1644), a bu'n helpu i amddiffyn Sir Drefaldwyn yn erbyn y cyrch a wnaeth y Pengryniaid wedi hynny. Am iddo ymladd o blaid y brenin fe'i dirwywyd hyd £200 (yn ôl y ddegfed ran), eithr gwnaed y swm yn £150 yn ddiweddarach gan nad oedd iddo ond hawl-dros-oed yn yr ystad.
Daeth ei frawd iau, THOMAS ELLICE, bargyfreithiwr (Gray's Inn, 1651), yn llywiawdr Barbados.
Bu Robert Ellice farw cyn 1661, a dilynwyd ef gan ei fab PETER ELLICE (bu farw 1719); yr oedd ef yn ynad heddwch a daeth yn ddirprwy-ystiward Bromfield a Yale (1697). Gwariodd gymaint ar ail-adeiladu ei gartref ac arwystlo'r ystad fwy a mwy nes erbyn 1750 iddi basio'n gyfan gwbl i ddwylo'r echwynwyr.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.