Yn ôl traddodiadau a gedwir mewn achau yn perthyn i gyfnod diwethaf y Canol Oesoedd yr oedd Rhirid yn fab Gwrgenau, gŵr y ceir iddo ach dywyll ac amheus sydd yn myned yn ôl hyd at Gunedda Wledig. Etifeddodd y cyfenw ' Blaidd ' ar ôl ei nain o ochr ei fam, sef Haer, merch ac aeres Gillyn, mab Blaidd Rhudd Gest, trefgordd yn Eifionydd. Trwy Cynfyn Hirdref (trefgordd yn Llŷn ydyw Hirdref) cafodd Haer ferch, Generis, mam Rhirid Flaidd. Tybir i Haer gymryd Bleddyn ap Cynfyn, brenin Powys, yn ail ŵr ac o'r herwydd cafodd Gwrgenau diroedd ym Mhowys gan hanner-brawd ei wraig, sef gan y brenin Maredudd. Os ydyw hyn oll yn wir yr oedd Rhirid, y dywedir iddo etifeddu tiroedd ei dad ym Mochnant a Phenllyn (sef yn Pennant Melangell a Rhiwaedog) heblaw tiroedd y fam yn Gest, yn gefnder i Madog ap Maredudd, brenin diwethaf Powys unedig, a fu farw yn 1160. Dywedir hefyd iddo briodi Gwenllian, ferch Ednyfed ap Rhiwallon, Brochdyn, ac iddo gael ohoni ddau fab, Einion a Madog. Yr oedd y teuluoedd hyn yn hawlio disgyn ohono - Llwydiaid Rhiwaedog, Myddeltoniaid Gwaenynog a Chastell y Waun, Fychaniaid Glanllyn, a Llwydiaid Glanhavon.
Y mae tystiolaeth gyfoes ar glawr sydd yn profi bod rhan (o leiaf) o'r hanes uchod yn hanesyddol gywir. Cyfansoddodd Cynddelw Brydydd Mawr, bardd pennaf Powys yn adeg Madog ap Maredudd, dair cân i Ririd. Yn un y mae'n talu diolch i'w noddwr am gleddyf hardd a gawsai'n rhodd ganddo; yn y ddwy arall y mae'n cwyno oblegid marw cynamserol ei wron, a ddigwyddodd, y mae'n debyg, wedi i Madog farw yn 1160. Ceir cadarnhad yma mai Gwrgenau oedd ei dad a dywedir fod iddo frawd, Arthen; disgrifir ef fel priodor mewn lle a enwir Pennant, a phwysleisir hefyd, lawer o weithiau, ei gysylltiadau â Dunoding, y cantref y mae Gest ynddo. Rhodd'r golau ar ei gyfathrach clos â Madog a sonnir am Ednyfed ap Rhiwallon a'i fab Einion. Y mae yma hefyd gyfeiriad trawiadol at orchfygu a lladd y Saeson cyn belled â thiroedd corsiog Tern y tu draw i Amwythig; gwyddys fod arglwyddiaeth Croesoswallt ym meddiant Madog am rai blynyddoedd ac y mae sicrwydd i Ririd gael tir yn rhodd yno canys parhaodd 'gwely' a gysylltid â'i enw yn yr arglwyddiaeth hyd ddiwedd y Canol Oesoedd. Gellir felly gasglu oddi wrth hyn oll ei fod yn uchelwr blaenllaw yn ei ddydd, yn rhyfelwr enwog a hoffid yn fawr yn llysoedd Powys, ac yn briodor yr oedd yn eiddo iddo diroedd lawer ledled dwy diriogaeth. Y mae'n hawdd tybied, o'r herwydd, ei fod yn haeddu y statws a briodolir iddo gan Gynddelw - ' Priodawr Pennant pennaf uchelwr uchelwyr vodrydaf.'
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.