MIDLETON (MYDDELTON), WILIAM (c. 1550 - c. 1600), bardd, milwr, a morwr

Enw: Wiliam Midleton
Dyddiad geni: c. 1550
Dyddiad marw: c. 1600
Rhiant: Ffowc Midleton
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd, milwr, a morwr
Maes gweithgaredd: Milwrol; Barddoniaeth
Awdur: Griffith John Williams

mab Ffowc Midleton o Archwedlog yn Llansannan. Dywedir yn gyffredin iddo fod ym Mhrifysgol Rhydychen, ond ni ellir profi hynny. Bu yng ngwasanaeth Henry Herbert, iarll Pembroke, ac yn 1575 canodd awdl farwnad i Gatrin, iarlles Pembroke. Yn 1585-6, bu gydag iarll Leicester yn ymladd yn erbyn y Sbaenwyr yn yr Iseldiroedd, a dywedir ei fod yn y frwydr pan laddwyd Syr Philip Sidney. Ac yn ôl pob tebyg, yr oedd yn un o'r llu a yrrwyd i Portugal yn 1589, gyda'r amcan o roddi Don Antonio ar yr orsedd. Wedi iddo ddychwelyd, ymddengys iddo wasnaethu ei frenhines ar y môr, ac ennill enw iddo ei hun fel morwr dewr. Dywedwyd mai ef oedd y ' Captaine Middleton ' a anfonwyd yn 1591 gan iarll Cumberland (yr hwn oedd gyda'r llynges yn ymyl traethau Portugal) i rybuddio'r arglwydd Thomas Howard, a oedd yn disgwyl llongau trysor Sbaen wrth ynysoedd Azores, fod llynges gref yn hwylio i ymosod arno. Yna bu'r frwydr enwog rhwng y llong Revenge a llynges Sbaen. Ond ni ellir profi mai'r bardd ydoedd hwn gan fod amryw gapteiniaid eraill yn dwyn yr enw Midleton. Anodd olrhain ei gamre wedi hyn. Yr oedd yn India'r Gorllewin yn 1596, a gellir bwrw mai ar y môr y bwriodd y rhan fwyaf o'i amser yn y cyfnod hwn. Bu farw rywbryd cyn 1603, oherwydd cynhwyswyd marwnad iddo yn y Psalmae a gyhoeddwyd y flwyddyn honno.

Y mae Wiliam Midleton yn enghraifft dda o uchelwr diwylliedig yng nghyfnod y Dadeni. Dysgodd gelfyddyd cerdd dafod yn ei ieuenctid, ac yn 1593-4 cyhoeddodd lyfr yn disgrifio'r gelfyddyd honno, sef Bardhoniaeth, neu brydydhiaeth. Nid ei disgrifio yn null y penceirddiaid a wnaeth, eithr egluro'r prif hanfodion fel y gallai pob gŵr bonheddig o Gymro ymarfer â hi. Mynnai greu yng Nghymru yr un math o fywyd llenyddol ag a welid yng ngwledydd eraill gorllewin Ewrop yn yr oes honno. Ceir awdlau a chywyddau ac englynion o'i waith yn y llawysgrifau, ac yn 1603 cyhoeddodd Thomas Salesbury ei gyfieithiad o'r Salmau ar fesurau'r penceirddiaid, Psalmae y Brenhinol Brophwyd Dafydh. Cafwyd gafael hefyd ar ddarn o lyfr arall o'i waith wedi ei argraffu tua 1595, a gynhwysai rai o'r salmau yn ogystal â chywyddau. Yr oedd yn un o'r beirdd Cymraeg cyntaf i edrych ar yr argraffwasg fel cyfrwng i ledaenu ei weithiau. Y mae Wiliam Midleton, felly, yn ffigur pwysig yn hanes llenyddiaeth Gymraeg yn ail hanner yr 16eg ganrif.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.