ELLIS, THOMAS PETER (1873 - 1936), barnwr I.C.S. (h.y. gwasanaeth gwladol yr India), awdurdod ar gyfreithiau arferiadol y Punjab a chyfreithiau Cymru yn y Canol Oesoedd

Enw: Thomas Peter Ellis
Dyddiad geni: 1873
Dyddiad marw: 1936
Priod: Hilda Ellis (née Broadway)
Priod: Rosetta Ellis (née McAlister)
Rhiant: Mary Ellis (née Lewis)
Rhiant: Peter Ellis
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: barnwr I.C.S. (h.y. gwasanaeth gwladol yr India), awdurdod ar gyfreithiau arferiadol y Punjab a chyfreithiau Cymru yn y Canol Oesoedd
Maes gweithgaredd: Cyfraith; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Stephen Joseph Williams

Ganwyd 4 Mehefin 1873 yn Wrecsam, mab Peter Ellis a Mary (Lewis). Bu farw ei dad pan oedd ef yn ifanc iawn, a threuliodd flynyddoedd ei febyd gyda'i fam a'i theulu hithau ar fferm yn ymyl Glyndyfrdwy. Addysgwyd ef yn yr 'High School' yng Nghroesoswallt ac yng Ngholeg Lincoln, Rhydychen, lle y daeth yn edmygydd o (Syr) Owen M. Edwards. Aeth i'r India ac enillodd glod yn fuan; daethpwyd i'w ystyried yn un o'r swyddogion barn galluocaf yng ngwasanaeth suful yr India yn ystod 20 mlynedd cyntaf yr 20fed ganrif. Yn yr India priododd Rosetta McAlister, ond bu hi farw yn 1912, gan adael mab a merch iddo ar ei hôl; yn 1915 priododd â Hilda Broadway.

Fel barnwr rhanbarth a sesiwn yn y Punjab enillodd Ellis wybodaeth ddihafal o gyfreithiau arferiadol y wlad honno. Yr oedd yn aelod o gyngor deddfwriaeth y Punjab, ac yn ystod y rhyfel byd cyntaf daeth yn gofiadur y gyfraith (twrnai cyffredinol) i Lywodraeth y Punjab ac yn llywydd y tribiwslys er amddiffyn yr India yn Lahore. Trwy 'wrthryfel arfog' Ebrill 1919 y cafodd Ellis ei orchwylion mwyaf llafurus, fel cyfarwyddwr ar faterion cyfraith filwrol, ac fel lluniwr yr amryfal ordinhadau a hyfforddiadau er cyfarwyddo swyddogion y gyfraith a'r fyddin. Canmolwyd ef yn uchel yn yr argyfwng hwn yn rhinwedd ei bwyll a diogelwch ei farn. Fel eraill o swyddogion y gyfraith, ystyriai Ellis fod rhoi gollyngdod (fel y gwnaed wedyn) i gynifer o garcharorion a gawsid yn euog o droseddau mawr yn sen ar weithgarwch y comisiynau cyfraith filwrol, ac am hyn o reswm, fe dybir, fe wrthododd ef y cynnig i'w benodi'n farnwr yr uchel lys yn Lahore.

Yn 1921 dychwelodd i fyw yng Nghymru, ymsefydlodd yn Llysmynach, Dolgellau, ac am y 15 mlynedd olaf o'i oes rhoes ei sylw i'w ddiddordebau Cymreig, nas anghofiasai o gwbl yn ystod ei waith yn yr India. Parhaodd yn ddyfal yn ei waith ymchwil, a chymhwysodd yn fedrus iawn ei brofiad o'r 'gyfundrefn lwythol,' fel y gweithreda yn y Punjab, i ddehongli'r bywyd llwythol yng Nghymru yn y Canol Oesoedd. Rhywbryd wedi iddo ddychwelyd i Gymru ymunodd â'r Eglwys Rufeinig, ac yn rhan olaf ei fywyd rhoes lawer o amser i astudio hanes Catholigiaeth yng Nghymru. Bu farw yn y Royal Southern Hospital, Lerpwl, 7 Gorffennaf 1936.

Ymhlith ei gyhoeddiadau yn yr India ceir The Ivory Industry in the Punjab, The Law of Pre-emption in the Punjab, A Judge's Note-Book, Notes on Punjab Custom, (golygydd) Rattigan's Punjab Customary Law (8fed arg.).

Ei brif gyhoeddiadau yng Nghymru yw Welsh Tribal Law and Custom in the Middle Ages, The Mabinogion - a New Translation (gyda John Lloyd), The Story of Two Parishes (Dolgelley and Llanelltyd), The First Extent of Bromfield and Yale, The Tragedy of Cymmer, The Catholic Church in Wales under the Roman Empire, The Catholic Martyrs of Wales 1535-1680, The Welsh Benedictines of the Terror, Dreams and Memories (wedi ei farw); llawer o ysgrifau ac erthyglau mewn cyfnodolion, etc., ac yn enwedig yn The Welsh Outlook. Y mae hefyd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru gopi o waith nas cyhoeddwyd, ' History of the Church in Wales,' yn ddwy gyfrol.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.