JAMES, EDWARD (1569? - 1610?), clerigwr a llenor

Enw: Edward James
Dyddiad geni: 1569?
Dyddiad marw: 1610?
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: clerigwr a llenor
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: David Gwenallt Jones

Ganwyd yn sir Forgannwg. Ymaelododd yn Rhydychen o S. Edmund Hall, 11 Mawrth 1585/6, yn 16 oed; B.A. o Goleg Iesu, 16 Mehefin 1589; M.A., 8 Gorffennaf 1592. Gwnaed ef yn ficer Caerlleon-ar-Wysg, Chwefror 1595-6, yn rheithor Shire-Newton, 8 Awst 1597, yn rheithor Llangatwg-ger-Wysg, 15 Ebrill 1598, yn ficer Llangatwg-feibion-Afel, 12 Gorffennaf 1599, yn ficer Llangatwg ger Castellnedd, 23 Gorffennaf 1603, ac yn ganghellor Llandaf yn 1606.

Yn 1606 cyfieithodd Certain Sermons or Homilies i'r Gymraeg, o dan y teitl Pregethau a osodwyd allan trwy awdurdod i'w darllein ymhob Eglwys blwyf a phob capel er adailadaeth i'r bobl annyscedig. Gwedi eu troi i'r iaith Gymeraeg drwy waith Edward James … 1606. Cyhoeddwyd ail arg. o'r Homiliau gan John Roberts, Tremeirchion, yn 1817, a trydydd arg. yn 1847 gan ' Nicander.'

Gan nad oes cofnodion am y cyfnod hwn ar glawr yn esgobaeth Llandaf, ni ellir cael gwybod pryd y bu farw; 1610 yw'r dyddiad a roir gan J. C. Morrice, ond ni phenodwyd olynydd iddo cyn 1620 (D. R. Phillips, Hist. of the Vale of Neath, 76).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.