Ganed yn Llanllugan, Sir Drefaldwyn, mab i frawd Richard Baxter y diwinydd. Addysgwyd ef yn Harrow. Dywed ei fod yn Gymro uniaith pan aeth i'r ysgol, ond daeth yn hyddysg mewn ieithoedd eraill - Gwyddeleg, Groeg, a Lladin, yr ieithoedd Almaenaidd, a rhai o'r ieithoedd dwyreiniol. Bu'n cadw ysgol yn Tottenham High Cross, Middlesex, ac wedyn yn bennaeth Ysgol y Sidanwyr (Mercers' School).
Yn 1679 cyhoeddodd ramadeg Lladin elfennol, De Analogia sive arte Linguae Latinae Commentariolus, in usum provectioris adolescentiae. Ymddangosodd ei Anacreon yn 1695 (ailargraffiad, 1710), a daeth ei enw'n hysbys yn Lloegr ac ar y Cyfandir. Golygodd waith Horas yn 1701 (argraffiadau eraill 1725, 1798), a bu'r testun hwn yn sylfaen i argraffiad J. M. Gesner yn 1752. Cyhoeddwyd ei eiriadur hynafiaethol, Glossarium Antiquitatum Britanniearum, yn 1719. Bu'n gweithio hefyd ar eiriadur o hynafiaethau Rhufeinig; golygwyd y gwaith anghyflawn hwn gan Moses Williams ar ôl marwolaeth Baxter, a chyhoeddwyd ef yn 1726 dan y teitl Reliquiae Baxterianae sive W. Baxteri opera posthuma (ail argraffiad, 1731, fel Glossarium Antiquitatum Romanarum). Ysgrifennodd erthyglau i Archaeologia a Philosophical Transactions, ac ymhlith ei weithiau anghyhoeddedig y mae ei astudiaeth o Juvenal.
Yr oedd mewn cysylltiad agos â hynafiaethwyr ac ieithegwyr ei gyfnod, a byddai'n gohebu ag Edward Lhuyd. Barn Lhuyd amdano ydoedd 'a person of learning and integrity, tho, I fear me, too apt to indulge fancy.' Bu farw 31 Mai 1723; yr oedd ganddo ddau fab a thair merch.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.