Mab Morgan Morgan, ficer Conwy o 1838 hyd 1870 (a oedd yn fab i David Morgan, o Lanfihangel-genau'r-glyn, a'i wraig Avarina Richards o deulu Ffos-y-bleiddiaid - gweler o dan Lloyd, Vaughan), a'i briod Fanny Nonnen, merch John Nonnen, Gothenburg, Sweden; ganwyd 8 Mai 1826 yn Gothenburg pan oedd ei dad yn gaplan yno (1821-35). Bu yn ysgolion Friars ac Amwythig, ac yng ngholegau Balliol a Worcester yn Rhydychen; graddiodd yn 1848 yn y dosbarth blaenaf yn y clasuron, ac enillodd amryw o wobrau'r brifysgol; bu'n gymrawd o Goleg University, 1850-7; galwyd ef i'r Bar o Lincoln's Inn yn 1853, a'i wneud yn Q.C. yn 1869.
Soniwyd amdano fel ymgeisydd Rhyddfrydol yn sir Gaernarfon yn 1859 ond tynnodd yn ôl rhag rhannu'r bleidlais Ryddfrydol, ac nid aeth i'r Senedd hyd 24 Tachwedd 1868, pan etholwyd ef fel Rhyddfrydwr yn un o'r ddau aelod dros sir Ddinbych; y llall oedd Syr Watkin Williams-Wynn. Pan rannwyd y sir yn 1885 dewisodd sefyll dros ddwyrain Dinbych, lle'r oedd dylanwad Wynnstay gryfaf, a llwyddodd i orchfygu Syr Watkin, gan ddiorseddu teulu Wynnstay o gynrychiolaeth seneddol y sir am y tro cyntaf ers dros 180 o flynyddoedd. Daliodd y sedd yn 1886 ac yn 1892. Yn y Senedd, cymerodd ran flaenllaw gyda mesurau Rhyddfrydol a Chymreig. Yn 1869 eiliodd Henry Richard yn ei benderfyniad ynglŷn â'r troi o'r ffermydd yng Nghymru ar ôl etholiad 1868; yn 1870, mewn canlyniad i'r hyn a ddigwyddodd yn angladd Henry Rees y flwyddyn cynt, cyflwynodd fesur i alluogi unrhyw enwad Cristnogol i gynnal gwasanaeth ym mynwentydd y plwyf; daeth â hwn ymlaen am ddeg tymor seneddol yn olynol a llwyddodd i'w gael yn ddeddf yn 1880. Yn yr un flwyddyn cyflwynodd fesur i hyrwyddo cael tir at adeiladu lleoedd o addoliad; daeth hwnnw yn ddeddf yn 1873. Cefnogodd ddeddf cau tafarnau ar y Sul yng Nghymru, a'r mudiad i roddi Coleg Aberystwyth ar yr un tir â Cholegau Bangor a Chaerdydd. Pleidiai ddatgysylltiad yr eglwysi sefydledig yn Iwerddon a Chymru ac ymreolaeth i Iwerddon. Bu ganddo ran mewn sefydlu'r hostel i ferched ynglŷn â Choleg Bangor a sefydlwyd ysgoloriaeth ynglŷn â'r coleg hwnnw er cof amdano. Bu mewn swydd ddwywaith, y tro cyntaf yn 1880, fel ' Judge-Advocate-General ' yng ngweinyddiaeth Gladstone, pan lwyddodd i ddiddymu fflangellu yn y fyddin, a'r eiltro fel is-ysgrifennydd seneddol i'r trefedigaethau yn 1886. Yn y swydd honno cymerodd ddiddordeb yn y Wladfa Gymreig ym Mhatagonia.
Ysgrifennodd gryn lawer i'r prif gylchgronau Saesneg ac yr oedd yn ysgolhaig clasurol. Gwnaed ef yn farwnig yn 1892. Bu farw 25 Awst 1897; y mae ei fedd ym mynwent Llantysilio, Llangollen. Priododd, 1856, Emily, merch Leopold Reiss, Eccles. Ni bu ganddynt blant.
Brawd iau George Osborne Morgan, a fu farw 4 Mai 1892, yn athro meddygol yn Owen's College, Manceinion.
Y trydydd o'r brodyr. Ganwyd 1 Gorffennaf 1830 yn Gothenburg. Aeth i ysgol Amwythig a Choleg Iesu yng Nghaergrawnt. Graddiodd yn y dosbarth blaenaf mewn mathemateg; etholwyd ef yn gymrawd o'i goleg; daliodd bron bob swydd ynddo, ac yn 1885 etholwyd ef yn feistr y coleg. Pan fu farw, 2 Medi 1912, yr oedd wedi bod yno am 63 mlynedd yn ddifwlch. Gŵr cyhyrog ac egnïol oedd ' Black Morgan ' (enw ei goleg arno), rhwyfwr nodedig, a dringwr yr Alpau - ef a'i gyfaill Leslie Stephen oedd y cyntaf i ddringo'r Jungfrau-Joch, yn 1862.
Perthynai i'r blaid flaengar ym mywyd y brifysgol; yn 1871 cychwynnodd y mudiad i ganiatáu i wŷr priod ddal cymrodoriaethau, a chyda hynny i bennu saith mlynedd fel hyd cymrodoriaeth. Ni chyhoeddodd fawr, ond gellir nodi ei Church and Dissent in Wales, 1895. Yr oedd yn briod, a chanddo fab (a laddwyd yn y rhyfel yn 1915) a phedair merch.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.