Ganwyd yn Ffos-y-bleiddiaid (gerllaw Ystrad Meurig), 17 Ionawr 1736, yn fab ieuengaf i John Lloyd a'i wraig Mary (Phillips, o Sir Benfro); ar y teulu, gweler Some family records … of the Lloyds, gan Lloyd-Theakston a Davies, mynegai - symudasant o Ffos-y-bleiddiaid i Mabws ym mhlwyf Llanrhystyd. Ymunodd Vaughan Lloyd â'r magnelwyr; yr oedd ym mrwydr enwog Minden (1759), yn y garsiwn a lwyddodd i gadw Gibraltar (1779-80), ac yn India'r Gorllewin (1795-6) gydag Abercromby. Yr oedd wedi esgyn i radd cadfridog llawn, ac yn bennaeth yn Woolwich, pan fu farw 16 Ionawr 1817.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.