PARRY, DAVID (1682? - 1714), ysgolhaig

Enw: David Parry
Dyddiad geni: 1682?
Dyddiad marw: 1714
Rhiant: William Parry
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: ysgolhaig
Maes gweithgaredd: Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd yn nhref Aberteifi yn fab i William Parry, 'dyn tlawd.' Tua 1695, pan oedd (i bob golwg) yn ysgol ramadeg Aberteifi (ac 'yn Lladinwr rhugl'), dygwyd ef gan William Gambold y gramadegydd i sylw Edward Lhuyd, a'i cymerth yn gynorthwywr yn ei ymchwiliadau ac yn gydymaith ar ei deithiau yng Nghymru, Iwerddon, Sgotland, Cernyw, a Llydaw (lle y cymerwyd y ddau i'r ddalfa fel 'ysbiwyr'). Ar eu dychweliad i Rydychen, yn Ebrill 1701, ymaelododd Parry yng Ngholeg Iesu; yn 1704 ymdrechodd Lhuyd i gael ysgoloriaeth iddo yno, ond ar waethaf ' hoffter pawb o Parry,' llwyddodd y cymrawd ' oerllyd ' John Wynne (yr esgob wedyn) i atal hynny. Graddiodd Parry yn 1705 (M.A. 1708), ac yr oedd yn is-geidwad (di-dâl) amgueddfa Ashmole dan Lhuyd. Yn Archaeologia Lhuyd, 1707, cynhwysir adran (270-89) gan Parry, ' An Essay towards a British Etymologicon.' Ar farwolaeth Lhuyd penodwyd Parry (19 Gorffennaf 1709) yn geidwad yr ' Ashmolean ' - heb gyflog eto, sut bynnag yr oedd yn ei gynnal ei hun; tystia Thomas Hearne (Collectanea, ii, 224) nad oedd gymhwysach gŵr ' ped ymroddai i'r gwaith,' ond dywed Hugh Thomas o Frycheiniog amdano: ' capable … if he could spare time from his pots and companions; but out of the tipling [ sic ] house he cannot spare one minute even to common civility ' (Cambro-Briton, ii, 369). Yn nes ymlaen, eddyf Hearne nad oedd pethau'n dda yn yr ' Ashmolean,' gan esgusodi Parry am na thelid cyflog iddo; ymwelodd Almaenwr â'r amgueddfa yn 1710, ond ni welodd mo Parry yno - ' the custos, always in the tavern, was too busy guttling and guzzling ' (Mallet, Hist. of the University of Oxford, iii, 22). Bu Parry farw fis Rhagfyr 1714 - 8 Rhagfyr yn ôl Richard Ellis (Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, 1906-7, 48), 10 Rhagfyr meddai Hearne (op. cit., v, 2), gan chwanegu: ' being a perfect sot he shortened his days, being just turned of thirty.' Edrydd Foster ei yrfa academaidd yn gywir, ond uniaetha ef ar gam (a dilynir ef yn hyn gan W. Wales Hist. Records, i, 253; iii, 229) â David Parry arall, rheithor Nolton a Bridell yn Sir Benfro, y profwyd ei ewyllys yn 1720.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.