brodor o ddeheubarth sir Benfro. Bu'n swyddog yn y fyddin a ddanfonwyd i Iwerddon i ddifodi gwrthryfel 1641. Pan dorrodd y Rhyfel Cartref allan (ym mis Awst 1642) dychwelodd i Sir Benfro. Oddi wrth gyfeiriad at ôl-gyflog a oedd yn ddyledus iddo am ei wasanaeth yn Iwerddon ymddengys ei fod yn fab i Lewis Powell a bod ei chwaer Lucy yn wraig Richard Cuney, Welston, gerllaw Pembroke. Ymunodd Powell gyda John Poyer a Rowland Laugharne, a chymerodd ran gyda hwynt yn amddiffyniad castell Penfro ac yn yr ymgyrchoedd milwrol yn y sir ac o'r tu allan iddi. Apwyntiodd Laugharne ef yn llywiawdr castell Aberteifi pan feddiannwyd y lle hwnnw ar 29 Rhagfyr 1644 a llwyddodd Powell i'w amddiffyn y mis dilynol yn erbyn ymosodiad y Brenhinwyr o dan arweiniad Syr Charles Gerard. Yn Ebrill 1646 daeth yn llywiawdr Dinbych-y-pysgod. Yn gynnar yn 1648, yn ystod absenoldeb Laugharne yn Llundain, yr oedd gofal y lluoedd arfog yn ne-orllewin Cymru arno pan ddaeth gorchymyn oddi wrth y Senedd i ddadfyddino uwch-rifiaid. Ufuddhaodd rhai cwmnïau, eithr bu i'r ffaith bod John Poyer yn gwrthod ufuddhau yn nhref Penfro galonogi eraill i wrthod. Wedi peth petruster ar y cychwyn penderfynodd Powell ategu gweithred Poyer. Ar 10 Ebrill cydgyhoeddasant ddatganiad o blaid y brenin. Buasent mewn cyswllt â'r tywysog Siarl yn S. Germain, ac addawsid iddynt gymorth gan blaid y Brenhinwyr. Casglodd Powell ei lu yng Nghaerfyrddin; yno ceisiodd y cyrnol Fleming, y comisiynwr dadfyddino, a'r cyrnol Thomas Horton, ei gael i frwydro yn ystod wythnos olaf mis Ebrill 1648. Enillodd Fleming beth mantais mewn ysgarmes eithr wrth geisio manteisio'n fwy llwyr wedi hynny fe'i cafodd ei hun yn gorfod wynebu mwy o filwyr nag a oedd ganddo ef ei hun. Ciliodd yn ei ôl i eglwys - Llangathen, y mae'n debyg - a saethwyd ef yno. Ciliodd Horton yntau yn ôl i Aberhonddu i ymofyn atgyfnerthion ac offer rhyfel. Yno clywodd fod Powell wedi meddiannu Abertawe a Chastellnedd a'i fod wedi cyrraedd Bro Morgannwg lle yr oedd y Brenhinwyr yn codi i'w gynorthwyo. Er mwyn ei atal rhag cyrraedd Caerdydd, aeth Horton rhagddo ar frys mawr i lawr dyffryn yr afon Taf gan geisio cyrraedd Caerdydd a'r cylch o flaen Powell. Yn y frwydr a ddilynodd, sef yn Sain Ffagan (11 Mai 1648), a lle y bu i Laugharne gyrraedd i fod yn brif bennaeth ar y milwyr, cafodd Horton fuddugoliaeth lwyr. Ffodd Powell i Sir Benfro a llwyddodd i ddal Dinbych-y-pysgod yn erbyn Horton hyd 31 Mai, pryd yr ymostyngodd yn ddiamodol. Profwyd ef gan lys milwrol a chondemniwyd ef i farwolaeth, eithr ar 7 Mai 1649 cafodd bardwn. Wedi'r Adferiad apeliodd (yn 1665) at Siarl II am gymorth i gyfarfod y dyledion yr aethai iddynt pan oedd yn gweithio yn nhu'r brenin, eithr ni wyddys a lwyddodd ei apêl ai peidio.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.